Diwygiadau mewn perthynas ag ymgynghori ynghylch ceisiadau penodol8.
“Ymgynghori mewn cysylltiad â cheisiadau penodol yn ymwneud â chaniatâd cynllunio: cyfnodau amser15C.
Y cyfnod a bennir at ddibenion adran 100A(3)(a) o Ddeddf 1990 yw’r cyfnod o 21 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y mae’r ymgynghorai yn cael—
(a)
y ddogfen y gofynnir am farn yr ymgyngoreion arni; neu
(b)
pan fo mwy nag un o ddogfennau, a anfonir ar wahanol ddiwrnodau, yr olaf o’r dogfennau hynny.
Gwybodaeth sydd i’w darparu gan awdurdod cynllunio lleol15D.
Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol ddarparu’r wybodaeth ganlynol i ymgynghorai statudol at ddibenion yr ymgynghoriad neu mewn cysylltiad â’r ymgynghoriad—
(a)
copi o’r ffurflen gais sy’n ymwneud â chais perthnasol13;(b)
y rhif cyfeirnod a ddyrannwyd gan yr awdurdod cynllunio lleol i’r cais gwreiddiol14;(c)
unrhyw luniadau sy’n gysylltiedig â’r cais perthnasol; ac
(ch)
unrhyw adroddiad mewn cysylltiad â’r cais perthnasol a ddyroddwyd i’r awdurdod cynllunio lleol.
Ymateb o sylwedd i ymgynghoriad15E.
Ymateb o sylwedd at ddibenion adran 100A(2) o Ddeddf 1990 yw ymateb sydd yn—
(a)
datgan nad oes gan yr ymgynghorai unrhyw sylw i’w wneud;
(b)
datgan nad oes gan yr ymgynghorai wrthwynebiad i’r materion sy’n destun yr ymgynghoriad, ac yn cyfeirio’r person sy’n ymgynghori at y cyngor sefydlog cyfredol gan yr ymgynghorai ar destun yr ymgynghoriad;
(c)
rhoi gwybod i’r person sy’n ymgynghori am unrhyw bryderon a ganfuwyd ynglŷn â’r datblygiad arfaethedig materion sy’n destun yr ymgynghoriad a sut y gall y ceisydd fynd i’r afael â’r pryderon hynny; neu
(ch)
rhoi gwybod bod yr ymgynghorai yn gwrthwynebu’r materion sy’n destun yr ymgynghoriad ac yn nodi’r rhesymau am y gwrthwynebiad.
Adroddiadau blynyddol – cydymffurfiaeth â gofynion ymgynghori15F.
(1)
Rhaid i bob ymgynghorai statudol yr ymgynghorir ag ef ynghylch cais dilys roi i Weinidogion Cymru, ddim hwyrach nag 1 Gorffennaf ym mhob blwyddyn galendr, gan ddechrau ar 1 Gorffennaf 2017, adroddiad ar gydymffurfiaeth yr ymgynghorai hwnnw ag adrannau 100A(2) a (3) o Ddeddf 1990 ac erthygl 15C.
(2)
Rhaid i’r adroddiad ymwneud â’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ebrill yn y flwyddyn galendr flaenorol (“y flwyddyn adroddiad”).
(3)
Rhaid i’r adroddiad gynnwys, mewn cysylltiad â’r flwyddyn adroddiad o dan sylw, datganiad o’r canlynol—
(a)
nifer yr achlysuron pan ymgynghorwyd â’r ymgynghorai;
(b)
nifer yr achlysuron pan ddarparwyd ymateb o sylwedd;
(c)
nifer yr achlysuron pan roddwyd ymateb o sylwedd gan yr ymgynghorai y tu allan i’r cyfnod rhagnodedig at ddibenion 100A(3) o Ddeddf 1990 a chrynodeb o’r rhesymau am hynny.”