Diwygiadau mewn perthynas â dilysu13.
(1)
Yn erthygl 8—
(a)
“(a)
cais sy’n cydymffurfio â gofynion erthygl 5;”
(b)
“(3)
Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol o’r farn nad yw unrhyw ffi, y mae’n ofynnol ei thalu mewn perthynas â’r cais, wedi ei thalu (ac eithrio pan fo siec wedi ei dychwelyd a pharagraffau (2)(c) a (3)(e) o erthygl 22 yn gymwys) rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd i ddatgan bod y cais yn annilys. Rhaid i’r hysbysiad hysbysu’r ceisydd o swm y ffi y mae’n ofynnol ei thalu a sut y gellir ei thalu.”
(c)
“(3A)
Os yw’r awdurdod cynllunio lleol o’r farn bod adran 62ZA(2) o Ddeddf 1990 yn gymwys i’r cais, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd i ddatgan bod y cais yn annilys. Rhaid i’r hysbysiad a roddir yn unol ag adran 62ZA(2) o Ddeddf 1990 hysbysu’r ceisydd ynghylch—
(a)
yr hawl i apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 62ZB o Ddeddf 1990, a
(b)
y terfyn amser yn erthygl 24C(2) ar y cyfnod a ganiateir i’r ceisydd ar gyfer rhoi hysbysiad o apêl.”
(2)
“(a)
cais sy’n cydymffurfio â gofynion erthygl 5;”
(3)
Yn erthygl 23—
(a)
yn lle “Pan fo cais” rhodder “Pan fo cais dilys”;
(b)
hepgorer “am gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl neu gais”;
(c)
mae’r ddarpariaeth yn erthygl 23 fel y’i diwygiwyd gan is-baragraffau (a) a (b) yn dod yn baragraff (1) o’r erthygl; a
(d)
“(2)
At y diben o gyfrifo’r cyfnodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) pan fo unrhyw ffi sy’n ofynnol mewn cysylltiad â chais wedi ei thalu â siec a’r siec wedi ei dychwelyd yn ddiweddarach, rhaid diystyru’r cyfnod rhwng y dyddiad yr anfonodd yr awdurdod cynllunio lleol hysbysiad ysgrifenedig at y ceisydd bod y siec wedi ei dychwelyd a’r dyddiad y bodlonir yr awdurdod ei fod wedi cael swm llawn y ffi.
(3)
Yn yr erthygl hon, ystyr “cais dilys” (“valid application”) yw cais a gyfansoddir o’r canlynol—
(a)
cais sy’n cynnwys yr wybodaeth, ac a gyflwynir ynghyd â’r dogfennau a’r deunyddiau eraill sy’n ofynnol, ar gyfer cydymffurfio â thelerau’r caniatâd cynllunio o dan sylw;
(b)
cais sy’n cydymffurfio â gofynion erthygl 4 pan fo’n gymwys; ac
(c)
unrhyw ffi y mae’n ofynnol ei thalu mewn cysylltiad â’r cais, ac at y diben hwn ystyrir bod cyflwyno siec am swm y ffi yn daliad,
a rhaid ystyried bod cais dilys wedi ei gael pan fo’r cais a’r cyfryw wybodaeth, dogfennau neu ddeunyddiau eraill y cyfeirir atynt uchod fel rhai y mae’n ofynnol eu cynnwys yn y cais neu ynghyd â’r cais, ac unrhyw ffi sy’n ofynnol, wedi eu cyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol.
(4)
Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol o’r farn nad yw ffi y mae’n ofynnol ei thalu mewn perthynas â’r cais wedi ei thalu (ac eithrio pan fo siec wedi ei dychwelyd a pharagraffau (2) a (3)(c) yn gymwys) rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd i ddatgan bod y cais yn annilys. Rhaid i’r hysbysiad hysbysu’r ceisydd o swm y ffi y mae’n ofynnol ei thalu a sut y gellir ei thalu.
(5)
Os yw’r awdurdod cynllunio lleol o’r farn bod adran 62ZA(4) o Ddeddf 1990 yn gymwys i’r cais, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd i ddatgan bod y cais yn annilys. Rhaid i’r hysbysiad a roddir yn unol ag adran 62ZA(4) o Ddeddf 1990 hysbysu’r ceisydd ynghylch—
(a)
yr hawl i apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 62ZB o Ddeddf 1990, a
(b)
y terfyn amser yn erthygl 24C(2) ar y cyfnod a ganiateir i’r ceisydd ar gyfer rhoi hysbysiad o apêl.”
(4)
“Apelau yn erbyn hysbysiad o farnu’n annilys24C.
(1)
Rhaid i geisydd sy’n dymuno apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 62ZB o Ddeddf 1990 roi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru drwy—
(a)
cyflwyno i Weinidogion Cymru, o fewn y terfyn amser a bennir ym mharagraff (2), ffurflen a gafwyd gan Weinidogion Cymru, gan gynnwys y dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3); a
(b)
cyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol gopi o’r ffurflen a’r dogfennau a gyflwynir i Weinidogion Cymru.
(2)
Y terfyn amser a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) yw dwy wythnos ar ôl y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad yn unol ag erthygl 8(3A) neu 23(5) a oedd yn datgan bod y cais yn annilys neu pa bynnag gyfnod hwy y caiff Gweinidogion Cymru ei ganiatáu ar unrhyw adeg.
(3)
At ddibenion paragraff (1)(a) y dogfennau yw—
(a)
yn achos cais am ganiatâd cynllunio—
(i)
copi o’r hysbysiad a gyflwynwyd yn unol ag erthygl 8(3A) a oedd yn datgan bod y cais yn annilys;
(ii)
copi o’r cais a wnaed i’r awdurdod cynllunio lleol ac a ysgogodd yr apêl; a
(iii)
copi o’r ffurflenni, dogfennau, planiau, dyluniadau, datganiadau, addefiadau, tystysgrifau, manylion neu dystiolaeth a grybwyllir yn erthyglau 5 ac 8(1) a roddwyd i’r awdurdod mewn cysylltiad â’r cais cyn dyddiad yr hysbysiad a gyflwynwyd yn unol ag erthygl 8(3A) a oedd yn datgan bod y cais yn annilys.
(b)
yn achos cais a wnaed o dan erthygl 23—
(i)
copi o’r hysbysiad a gyflwynwyd yn unol ag erthygl 23(5) a oedd yn datgan bod y cais yn annilys;
(ii)
copi o’r cais a wnaed i’r awdurdod cynllunio lleol ac a ysgogodd yr apêl;
(iii)
copi o’r penderfyniad i roi caniatâd cynllunio, os oes un, y gwneir y cais yn unol ag ef; a
(iv)
copi o’r ffurflenni, dogfennau, planiau, dyluniadau, datganiadau, addefiadau, tystysgrifau, manylion neu dystiolaeth (gan gynnwys y cyfryw rai a grybwyllir yn erthygl 4(1) pan fo’n gymwys) a roddwyd i’r awdurdod mewn cysylltiad â’r cais cyn dyddiad yr hysbysiad a gyflwynwyd yn unol ag erthygl 23(5) a oedd yn datgan bod y cais yn annilys.
(c)
Pan fo is-baragraff (b)(iii) yn gymwys a fersiwn ddiwygiedig o’r hysbysiad o’r penderfyniad wedi ei ddyroddi gan yr awdurdod yn unol ag adran 71ZA(5) o Ddeddf 1990 ac erthygl 24A, rhaid darllen is-baragraff (b)(iii) fel pe bai’n cyfeirio at y fersiwn ddiwygiedig o’r hysbysiad.
(4)
Caiff Gweinidogion Cymru wrthod derbyn hysbysiad o apêl gan geisydd os na chyflwynir y ffurflen a’r dogfennau sy’n ofynnol o dan baragraff (1)(a) i Weinidogion Cymru o fewn y terfyn amser a bennir ym mharagraff (2).
(5)
Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu, neu drefnu ar gyfer darparu, gwefan sydd i’w defnyddio at ddibenion o’r fath a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru, ac sydd—
(a)
yn ymwneud ag apelau o dan adran 62ZB o Ddeddf 1990 a’r erthygl hon, a
(b)
yn ddibenion y gellir eu cyflawni yn electronig.
(6)
Pan fo person yn defnyddio cyfathrebiadau electronig i roi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, mae darpariaethau erthygl 32 yn gymwys.”
(5)
Yn y pennawd i erthygl 25, ar ôl “Hysbysiad o apêl” mewnosoder “o dan adran 78 o Ddeddf 1990”.
(6)
Yn y pennawd i erthygl 26, ar ôl “Apelau” mewnosoder “o dan adran 78 o Ddeddf 1990”.