(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer talu ffioedd mewn cysylltiad ag—
(1) gwasanaethau cyn ymgeisio a ddarperir gan Weinidogion Cymru ac awdurdodau cynllunio lleol o dan Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016 (rheoliadau 3 a 4);
(2) hysbysiadau o geisiadau arfaethedig o dan adran 62D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”) (rheoliad 5);
(3) ceisiadau o dan adran 62D o Ddeddf 1990, gan gynnwys ffioedd am adroddiadau ar yr effaith leol a wneir yn ofynnol mewn perthynas â cheisiadau o’r fath gan adran 62I o Ddeddf 1990 (rheoliadau 6 i 12).
Maent hefyd yn rhagnodi’r amgylchiadau—
(1) pan ad-delir rhan o’r ffioedd dechreuol a dalwyd i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â cheisiadau o dan adran 62D o Ddeddf 1990 (rheoliad 7); a
(2) pan fo ffioedd a dalwyd i Weinidogion Cymru am adroddiadau ar yr effaith leol yn cael eu hanfon at awdurdodau cynllunio lleol neu eu had-dalu i geiswyr (rheoliadau 8 a 9).
Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk.