NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer talu ffioedd mewn cysylltiad ag—
(1)
gwasanaethau cyn ymgeisio a ddarperir gan Weinidogion Cymru ac awdurdodau cynllunio lleol o dan Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016 (rheoliadau 3 a 4);
(2)
hysbysiadau o geisiadau arfaethedig o dan adran 62D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”) (rheoliad 5);
Maent hefyd yn rhagnodi’r amgylchiadau—
(1)
pan ad-delir rhan o’r ffioedd dechreuol a dalwyd i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â cheisiadau o dan adran 62D o Ddeddf 1990 (rheoliad 7); a
Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk.