ATODLEN 4Caniatâd adeilad rhestredig

RHAN 1Addasu deddfwriaeth sylfaenol

1.—(1Mae Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990(1) (“y Ddeddf Adeiladau Rhestredig”) (“the Listed Buildings Act”) yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.

(2Rhaid darllen adran 10 (gwneud ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig) fel a ganlyn—

(a)yn lle is-adran (1) rhodder “An application for listed building consent must be made to and dealt with by the Welsh Ministers”;

(b)yn is-adran (2)(c) yn lle “the authority” rhodder “the Welsh Ministers”.

(3Rhaid darllen adran 62 (dilysrwydd gorchmynion a phenderfyniadau penodol) fel a ganlyn—

(a)yn is-adran (2), ar ôl paragraff (a), mewnosoder y canlynol—

(aza)any decision on an application for listed building consent where that decision is made by the Welsh Ministers by virtue of section 62F(2) of the principal Act.;

(b)yn is-adrannau (1) a (3) rhodder “the Welsh Ministers” yn lle “the Secretary of State” mewn perthynas â phenderfyniadau sydd o fewn is-adran (2)(aza).