xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 8Ymchwiliadau

Cymhwyso Rhan 8

30.—(1Mae’r Rhan hon yn gymwys pan fo—

(a)hysbysiad derbyn wedi ei roi; a

(b)Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad bod y cais i gael ei ystyried yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gynnal ymchwiliad lleol.

(2Mae’r Rhan hon yn gymwys hefyd pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi gwneud penderfyniad bod y cyfan neu ran o’r cais i gael ei ystyried neu ei hystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig neu wrandawiad; a

(b)yn amrywio’r penderfyniad hwnnw yn ddiweddarach fel bod y cais i gael ei ystyried, neu rannau o’r cais i gael eu hystyried, ar sail ymchwiliad,

i’r cyfryw raddau a bennir gan Weinidogion Cymru ar ôl ystyried unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r cais.

(3Mae rheoliadau 22 i 25 a 28 yn gymwys i ymchwiliadau lleol fel y maent yn gymwys i wrandawiadau, ac y unol â hynny mae’r rheoliadau hynny i’w darllen fel pe bai cyfeiriadau at wrandawiadau yn cynnwys cyfeiriadau at ymchwiliadau, i’r graddau y mae’r cyd-destun yn caniatáu ac yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon.

Cyfarfodydd cyn-ymchwiliad

31.—(1Caiff y person penodedig gynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad cyn yr ymchwiliad, i ystyried beth ellir ei wneud er mwyn sicrhau y cynhelir yr ymchwiliad mewn modd effeithlon a didrafferth.

(2Rhaid i berson penodedig roi dim llai na dwy wythnos o rybudd ysgrifenedig o unrhyw gyfarfod cyn-ymchwiliad y mae’r person penodedig yn bwriadu ei gynnal o dan baragraff (1), i’r canlynol—

(a)y ceisydd;

(b)yr awdurdod cynllunio lleol;

(c)unrhyw berson a wahoddwyd gan y person penodedig i gymryd rhan yn y cyfarfod cyn-ymchwiliad.

(3Pan fo cyfarfod cyn-ymchwiliad wedi ei gynnal yn unol â pharagraff (1), caiff y person penodedig gynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad pellach, a rhaid iddo drefnu i roi cymaint o rybudd o’r cyfarfod cyn-ymchwiliad pellach ag sy’n ymddangos yn angenrheidiol.

(4Y person penodedig—

(a)a fydd yn llywyddu mewn unrhyw gyfarfod cyn-ymchwiliad;

(b)a fydd yn pennu’r materion sydd i’w trafod a’r weithdrefn sydd i’w dilyn;

(c)caiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sy’n bresennol yn y cyfarfod cyn-ymchwiliad yn ymadael os yw’n ymddwyn mewn modd sydd, ym marn y person penodedig, yn tarfu ar eraill; a

(d)caiff wrthod caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd nac ychwaith fod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod cyn-ymchwiliad pellach; neu

(e)caiff ganiatáu i’r person hwnnw ddychwelyd neu fod yn bresennol ar y cyfryw amodau, yn unig, a bennir gan y person penodedig.

Dyddiad a lleoliad yr ymchwiliad

32.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r dyddiad ar gyfer yr ymchwiliad.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i’r dyddiad a bennir ar gyfer cynnal ymchwiliad fod—

(a)ddim hwyrach na—

(i)13 wythnos ar ôl diwedd y cyfnod sylwadau; neu

(ii)(os yw’n ddiweddarach) mwn achos pan gynhelir cyfarfod cyn-ymchwiliad yn unol â rheoliad 31(1), pedair wythnos ar ôl diwedd y cyfarfod hwnnw (neu pa bynnag gyfnod byrrach ar ôl diwedd y cyfarfod hwnnw a gytunir rhwng y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol a’r person penodedig); a

(b)o leiaf un wythnos ar ôl y cyfnod a ganiatawyd ar gyfer sylwadau pellach a ddeisyfwyd yn unol â rheoliad 15(1) a (3).

(3Pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn y byddai’n anymarferol cynnal yr ymchwiliad ar ddyddiad a bennir yn unol â pharagraff (2), rhaid cynnal yr ymchwiliad ar y dyddiad cynharaf a ystyrir yn ymarferol gan Weinidogion Cymru.

(4Rhaid i’r man lle cynhelir yr ymchwiliad gael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru.

(5Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod gwahanol rannau o’r ymchwiliad i’w cynnal mewn gwahanol leoliadau pan fodlonir hwy, ar ôl ystyried natur y cais, ei bod yn rhesymol gwneud hynny.

(6Oni fydd Gweinidogion Cymru wedi cytuno gyda’r ceisydd a’r awdurdod cynllunio lleol ar gyfnod byrrach o rybudd, rhaid i Weinidogion Cymru roi o leiaf bedair wythnos o rybudd ysgrifenedig o’r dyddiad, yr amser a’r lleoliad a bennir ganddynt ar gyfer cynnal yr ymchwiliad, i’r ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac i unrhyw berson a wahoddwyd i gymryd rhan yn yr ymchwiliad.

(7Caiff Gweinidogion Cymru amrywio’r dyddiad a bennwyd ar gyfer yr ymchwiliad, pa un a fydd y dyddiad newydd o fewn y cyfnod o dair wythnos ar ddeg a grybwyllir ym mharagraff (2)(a) ai peidio; ac mae paragraff (6) yn gymwys i amrywio dyddiad fel y mae’n gymwys i bennu’r dyddiad gwreiddiol.

(8Caiff Gweinidogion Cymru amrywio’r amser neu’r lleoliad ar gyfer cynnal ymchwiliad, a rhaid iddynt roi cymaint o rybudd o unrhyw amrywiad ag sy’n ymddangos iddynt yn rhesymol.

Gweithdrefn mewn ymchwiliad

33.—(1Y person penodedig sydd i lywyddu mewn unrhyw ymchwiliad, a rhaid iddo benderfynu ar y weithdrefn yn yr ymchwiliad, yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn.

(2Oni fydd y person penodedig yn penderfynu’n wahanol mewn unrhyw achos penodol, y ceisydd sydd i ddechrau, a chlywir yr awdurdod cynllunio lleol a phersonau eraill ym mha bynnag drefn a bennir gan y person penodedig.

(3Ar ddechrau’r ymchwiliad, rhaid i’r person penodedig nodi pa faterion y mae’n ofynnol iddo, ym marn y person penodedig, gael sylwadau pellach arnynt yn yr ymchwiliad.

(4Mae hawl gan y ceisydd, yr awdurdod cynllunio lleol ac unrhyw berson a wahoddwyd i gymryd rhan mewn ymchwiliad i alw tystiolaeth.

(5Caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson arall alw tystiolaeth.

(6Mae hawl gan y ceisydd a’r awdurdod cynllunio lleol i groesholi personau sy’n rhoi tystiolaeth, yn ddarostyngedig i baragraff (7).

(7Caiff y person penodedig wrthod caniatáu—

(a)rhoi neu ddangos tystiolaeth;

(b)croesholi personau sy’n rhoi tystiolaeth; neu

(c)cyflwyno unrhyw fater arall,

a ystyrir gan y person penodedig yn amherthnasol neu’n ailadroddus.

(8Pan fo’r person penodedig yn gwrthod caniatáu rhoi tystiolaeth ar lafar, caiff y person sy’n dymuno rhoi’r dystiolaeth gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person penodedig cyn cau’r ymchwiliad.

(9Caiff y person penodedig—

(a)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson, sy’n cymryd rhan neu sy’n bresennol mewn ymchwiliad, yn ymadael os yw’n ymddwyn mewn modd sydd, ym marn y person penodedig, yn tarfu ar eraill; a

(b)gwrthod caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd; neu

(c)caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd ar y cyfryw amodau, yn unig, a bennir gan y person penodedig,

ond caiff unrhyw berson o’r fath gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person penodedig cyn cau’r ymchwiliad.

(10Mae rheoliad 15(2) i (6) yn gymwys i unrhyw dystiolaeth neu sylw ysgrifenedig a gyflwynir i’r person penodedig yn unol â pharagraff (8) neu (9) o’r rheoliad hwn.

(11Caiff y person penodedig gyfarwyddo bod cyfleusterau i’w rhoi ar gael i unrhyw berson sy’n cymryd rhan mewn ymchwiliad, ar gyfer gwneud neu gael copïau o ddogfennau sydd ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt.

(12Caiff y person penodedig gymryd i ystyriaeth unrhyw sylw ysgrifenedig neu unrhyw ddogfen arall a gafodd gan unrhyw berson cyn agor yr ymchwiliad neu yn ystod yr ymchwiliad, ar yr amod bod y person penodedig yn datgelu hynny yn yr ymchwiliad.

(13Caiff y person penodedig wahodd unrhyw berson sy’n cymryd rhan yn yr ymchwiliad i wneud cyflwyniadau cloi.

(14Rhaid i unrhyw berson sy’n gwneud cyflwyniadau cloi ddarparu copi ysgrifenedig o’r cyflwyniadau cloi hynny i’r person penodedig cyn cau’r ymchwiliad.

Ymchwiliad yn amhriodol

34.  Ar unrhyw adeg yn ystod ymchwiliad, os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru nad yw’r weithdrefn ymchwiliad yn briodol, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu cau’r ymchwiliad a naill ai trefnu i gynnal gwrandawiad yn ei le, neu benderfynu bod y mater i fynd ymlaen ar sail sylwadau ysgrifenedig, gan roi sylw i unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r cais.

Penderfynu

35.  Caiff Gweinidogion Cymru fynd ymlaen i benderfynu cais—

(a)ar ôl cau’r ymchwiliad neu unrhyw ymchwiliad a ailagorwyd; neu

(b)os yw’n ddiweddarach, pan fo’r cyfnod a ganiatawyd ar gyfer darparu sylwadau ysgrifenedig yn unol â rheoliad 28(6) (fel y’i cymhwysir gan reoliad 30(3)) wedi dod i ben, pa un a gafwyd sylwadau o fewn y cyfnod hwnnw ai peidio.

Hysbysiad o benderfyniad

36.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o’r penderfyniad i unrhyw berson a ofynnodd am ei hysbysu o’r penderfyniad ac y mae Gweinidogion Cymru yn tybio y byddai’n rhesymol ei hysbysu.

(2Ystyrir bod hysbysiad o benderfyniad a rhesymau o dan y rheoliad hwn wedi ei roi i berson pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi’r penderfyniad a’r rhesymau ar wefan; a

(b)y person wedi ei hysbysu o’r canlynol—

(i)cyhoeddi’r penderfyniad a’r rhesymau ar wefan;

(ii)cyfeiriad y wefan.

(3Pan nad anfonir copi o adroddiad y person penodedig gyda’r hysbysiad o’r penderfyniad, rhaid anfon yr hysbysiad ynghyd â datganiad o gasgliadau’r person penodedig ac o unrhyw argymhellion a wnaed gan y person penodedig.

(4Yn y rheoliad hwn, nid yw “adroddiad” (“report”) yn cynnwys unrhyw ddogfennau a atodwyd wrth adroddiad y person penodedig; ond caiff unrhyw berson sydd wedi cael copi o’r adroddiad ofyn i Weinidogion Cymru, mewn ysgrifen, am gyfle i edrych ar unrhyw ddogfennau o’r fath, a rhaid i Weinidogion Cymru roi’r cyfle hwnnw i’r person hwnnw.

(5At ddibenion paragraff (4), ystyrir bod y cyfle wedi ei roi i berson pan fo’r person hwnnw wedi ei hysbysu o’r canlynol—

(a)cyhoeddi’r dogfennau perthnasol ar wefan;

(b)cyfeiriad y wefan; ac

(c)ym mhle ar y wefan y gellir cael mynediad i’r dogfennau a sut i gael mynediad iddynt.