(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â gwahanol faterion sy’n ymwneud â datblygiad sydd o arwyddocâd cenedlaethol i Gymru(1).
Mae’r Rheoliadau hyn yn:
gwneud darpariaeth o dan adrannau 61Z1 a 61Z2 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”) ar gyfer darparu gwasanaethau gan awdurdodau cynllunio lleol a Gweinidogion Cymru cyn bo cais am ganiatâd cynllunio wedi ei wneud ar gyfer datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol (Rhan 2);
rhagnodi swyddogaethau sydd i’w cyflawni gan berson penodedig ar ran Gweinidogion Cymru, mewn perthynas â cheisiadau o’r fath a chydsyniadau eilaidd(2)(Rhan 3);
gwneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn sydd i’w dilyn wrth archwilio ceisiadau o’r fath (Rhannau 4 i 10);
gwneud darpariaeth ar gyfer y modd y trinnir cydsyniadau eilaidd neu geisiadau am gydsyniadau eilaidd gan Weinidogion Cymru (Rhan 11);
addasu deddfiadau cymwysadwy mewn perthynas â chydsyniadau eilaidd (Rhan 11 ac Atodlenni 2 i 10); a
rhagnodi pa geisiadau a wneir o dan adran 73 o Ddeddf 1990 (penderfynu ceisiadau i ddatblygu tir heb gydymffurfio ag amodau a osodwyd yn flaenorol) sydd i’w trin fel ceisiadau ar gyfer datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol (Rhan 12).
Mae asesiad effaith wedi ei baratoi mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Mae copïau ohono ar gael gan Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk.
Ar gyfer “development of national significance” (“datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol”) gweler adran 62D(3) a (4) o Ddeddf 1990. Mewnosodwyd adran 62D gan adran 19 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4).
Ar gyfer “cydsyniadau eilaidd” (“secondary consents”), gweler adran 62H o Ddeddf 1990, a fewnosodwyd gan adran 20 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015.