NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â gwahanol faterion sy’n ymwneud â datblygiad sydd o arwyddocâd cenedlaethol i Gymru54.

Mae’r Rheoliadau hyn yn:

  • gwneud darpariaeth o dan adrannau 61Z1 a 61Z2 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”) ar gyfer darparu gwasanaethau gan awdurdodau cynllunio lleol a Gweinidogion Cymru cyn bo cais am ganiatâd cynllunio wedi ei wneud ar gyfer datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol (Rhan 2);

  • rhagnodi swyddogaethau sydd i’w cyflawni gan berson penodedig ar ran Gweinidogion Cymru, mewn perthynas â cheisiadau o’r fath a chydsyniadau eilaidd55(Rhan 3);
  • gwneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn sydd i’w dilyn wrth archwilio ceisiadau o’r fath (Rhannau 4 i 10);

  • gwneud darpariaeth ar gyfer y modd y trinnir cydsyniadau eilaidd neu geisiadau am gydsyniadau eilaidd gan Weinidogion Cymru (Rhan 11);

  • addasu deddfiadau cymwysadwy mewn perthynas â chydsyniadau eilaidd (Rhan 11 ac Atodlenni 2 i 10); a

  • rhagnodi pa geisiadau a wneir o dan adran 73 o Ddeddf 1990 (penderfynu ceisiadau i ddatblygu tir heb gydymffurfio ag amodau a osodwyd yn flaenorol) sydd i’w trin fel ceisiadau ar gyfer datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol (Rhan 12).

Mae asesiad effaith wedi ei baratoi mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Mae copïau ohono ar gael gan Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk.