RHAN 2Cyn gwneud cais

Ymgynghori cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio9.

(1)

Mae’r personau neu ddisgrifiadau o bersonau canlynol wedi eu pennu at ddibenion adran 61Z(4) o Ddeddf 1990—

(a)

unrhyw ymgynghorai cymunedol;

(b)

unrhyw ymgynghorai arbenigol; ac

(c)

unrhyw berson perthnasol19.

(2)

Pan yw’n ofynnol bod ceisydd yn ymgynghori ag ymgynghorai cymunedol neu berson perthnasol, rhaid i’r ceisydd roi i’r ymgynghorai cymunedol neu berson perthnasol hysbysiad gofynnol ysgrifenedig o’r cais arfaethedig.

(3)

Pan yw’n ofynnol bod ceisydd yn ymgynghori ag ymgynghorai arbenigol, rhaid i’r ceisydd roi i’r ymgynghorai arbenigol hysbysiad gofynnol ysgrifenedig o’r cais arfaethedig ac amgáu pob un o’r dogfennau y cyfeirir atynt yn erthygl 8(1)(b) neu ddarparu dolen i wefan lle y gellir gweld y dogfennau hynny.

(4)

Rhaid i’r ceisydd fod wedi cydymffurfio â pharagraffau (2) a (3) ac wedi rhoi cyfle i’r ymgynghorai arbenigol ymateb yn unol ag erthygl 10(1) cyn cyflwyno cais.

(5)

Yn yr erthygl hon, ystyr “hysbysiad gofynnol” (“requisite notice”) yw—

(a)

mewn perthynas ag ymgynghorai cymunedol neu berson perthnasol, hysbysiad yn y ffurf briodol a nodir yn Atodlen 1; a

(b)

mewn perthynas ag ymgynghorai arbenigol, hysbysiad yn y ffurf briodol a nodir yn Atodlen 2,

neu ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith.