RHAN 7Penderfynu a hysbysu ynghylch cychwyn datblygiad

Hysbysiad o gychwyn datblygiad ac arddangos hysbysiad31.

(1)

Mae caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol wedi ei bennu at ddibenion adran 71ZB(6) o Ddeddf 1990.

(2)

Rhaid i’r hysbysiad sydd i’w roi i awdurdod cynllunio lleol cyn cychwyn unrhyw ddatblygiad y mae caniatâd cynllunio perthnasol yn ymwneud ag ef, yn unol ag Adran 71ZB(1) o Ddeddf 1990, fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 6 (neu ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith).

(3)

Rhaid i’r hysbysiad, sydd, yn unol ag adran 71ZB(2) o Ddeddf 1990, i gael ei arddangos drwy gydol yr amser y cyflawnir datblygiad y mae caniatâd cynllunio perthnasol yn ymwneud ag ef, fod—

(a)

yn y ffurf a nodir yn Atodlen 7 (neu ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith) ;

(b)

wedi ei osod yn gadarn yn ei le a’i arddangos mewn man amlwg yn neu gerllaw’r lle y cyflawnir y datblygiad;

(c)

yn ddarllenadwy ac yn weladwy yn rhwydd i aelodau’r cyhoedd, heb iddynt orfod mynd i mewn i’r safle; a

(d)

wedi ei argraffu ar ddeunydd durol.

(4)

Pan fo’r hysbysiad, heb unrhyw fwriad na bai ar y person sy’n cyflawni’r datblygiad, gael ei dynnu ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno, trinnir y person fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion is-baragraffau (b) ac (c) o baragraff (3) os byddant wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad, ac, os oes angen, ei amnewid.