RHAN 6Amrywio ceisiadau

Gweithdrefn mewn cysylltiad ag amrywio ceisiadau

27.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr erthygl hon a chyda chaniatâd Gweinidogion Cymru, caniateir amrywio cais ar ôl ei wneud.

(2Ar un achlysur, yn unig, y caniateir i geisydd gynnig bod cais penodol i Weinidogion Cymru yn cael ei amrywio.

(3Rhaid i geisydd sy’n bwriadu bod cais yn cael ei amrywio hysbysu Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen o fewn y 10 diwrnod gwaith yn union ar ôl diwedd y cyfnod sylwadau.

(4Rhaid i’r cyfryw hysbysiad (“hysbysiad o fwriad i amrywio”) (“notification of intention to vary”)—

(a)cael ei roi ar ffurflen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru (neu ffurflen sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith);

(b)darparu disgrifiad o’r amrywiad y mae’r ceisydd yn dymuno i Weinidogion Cymru ei dderbyn ar gyfer ei ystyried ganddynt; ac

(c)cael ei gyflwyno ynghyd ag unrhyw ffi y mae’n ofynnol ei thalu mewn perthynas â rhoi hysbysiad o’r fath.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl cael hysbysiad o fwriad i amrywio a roddwyd yn unol â pharagraff (4), roi hysbysiad i’r ceisydd sy’n dynodi a fydd Gweinidogion Cymru yn derbyn yr amrywiad arfaethedig at y diben o ystyried a ydynt yn cytuno ai peidio i’r amrywiad.

(6Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad o dan baragraff (5) sy’n cadarnhau na fyddant yn derbyn yr amrywiad arfaethedig at y diben o ystyried a ydynt yn cytuno ai peidio i’r amrywiad, yna, y cais fel y’i gwnaed yn wreiddiol o dan erthygl 12 a fydd yn cael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru

(7Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad o dan baragraff (5) sy’n cadarnhau y byddant yn derbyn yr amrywiad arfaethedig at y diben o ystyried a ydynt yn cytuno ai peidio i’r amrywiad, rhaid i’r ceisydd gyflwyno’r amrywiad arfaethedig yn ffurfiol i Weinidogion Cymru o fewn cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.

(8Pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn bod yr amrywiad arfaethedig yn peri newid sylweddol yn natur y datblygiad y ceisir caniatâd cynllunio ar ei gyfer, rhaid iddynt beidio â chytuno i’r amrywiad.

(9Caiff Gweinidogion Cymru ymgynghori ynghylch unrhyw amrywiad a gynigir gan geisydd, gydag unrhyw bersonau ac ym mha bynnag fodd yr ystyriant yn briodol.

(10Caiff Gweinidogion Cymru, pan fo cais wedi ei amrywio o dan yr erthygl hon, roi pa bynnag hysbysiad o’r amrywiad a ystyriant yn briodol.