2016 No. 53 (Cy. 23)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 62D and 62H o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19901, ac a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 333 o’r Ddeddf honno2 ac sydd bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru3, ac a roddwyd iddynt gan adran 57 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2016.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran holl dir Cymru.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;

  • ystyr “Gorchymyn 1995” (“the 1995 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 19954; ac

  • mae “nwy” (“gas”) yn cynnwys nwy naturiol.

RHAN 2Datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: meini prawf penodedig

Datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: cyffredinol3

1

Mae datblygiad yn ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion adran 62D(3) o Ddeddf 1990 os yw’n un o’r canlynol—

a

adeiladu, estyn neu addasu gorsaf gynhyrchu sy’n cynhyrchu trydan;

b

datblygiad sy’n ymwneud â chyfleusterau storio nwy tanddaearol;

c

adeiladu neu addasu cyfleuster nwy naturiol hylifedig (LNG);

d

adeiladu neu addasu cyfleuster derbyn nwy;

e

datblygiad mewn perthynas â maes awyr;

f

adeiladu neu addasu rheilffordd;

g

adeiladu neu addasu cyfnewidfa nwyddau rheilffordd;

h

adeiladu neu addasu argae neu gronfa ddŵr;

i

datblygiad sy’n ymwneud â throsglwyddo adnoddau dŵr;

j

adeiladu neu addasu gwaith trin dŵr gwastraff neu seilwaith ar gyfer trosglwyddo neu storio dŵr gwastraff;

k

adeiladu neu addasu cyfleuster gwastraff peryglus.

2

Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4).

3

Nid yw datblygiad yn ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion adran 62D(3) o Ddeddf 1990 os yw’n ddatblygiad a ganiateir yn rhinwedd erthygl 3 o Orchymyn 1995 ac Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwnnw 5.

4

Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraffau 4 i 14.

Gorsafoedd cynhyrchu4

1

Nid yw adeiladu gorsaf gynhyrchu o fewn rheoliad 3(1)(a) ac eithrio pan ddisgwylir iddi (ar ôl ei hadeiladu) fod â gallu cynhyrchu gosodedig sydd rhwng 10 a 50 megawat.

2

Nid yw estyn neu addasu gorsaf gynhyrchu o fewn rheoliad 3(1)(a) ac eithrio pan ddisgwylir i effaith estyn neu addasiad gynyddu’r gallu cynhyrchu gosodedig o 10 megawat o leiaf, ond heb achosi i’r gallu cynhyrchu gosodedig fod yn fwy na 50 megawat.

3

Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “gallu cynhyrchu gosodedig” (“installed generating capacity”) yw’r gallu cynhyrchu trydan uchaf (mewn megawatau) y gellir gweithredu’r orsaf gynhyrchu yn unol â hi am gyfnod estynedig heb beri difrod i’r orsaf (gan ragdybio bod y ffynhonnell ynni a ddefnyddir i gynhyrchu trydan ar gael yn ddi-dor);

  • ystyr “gorsaf gynhyrchu” (“generating station”) yw gorsaf, gwaith neu adeiladau sy’n cynhyrchu trydan.

Cyfleusterau storio nwy tanddaearol5

1

Nid yw datblygiad sy’n ymwneud â chyfleusterau storio nwy tanddaearol o fewn rheoliad 3(1)(b) ac eithrio pan fo’r datblygiad o fewn paragraffau (2), (3), (4) neu (6) o’r rheoliad hwn.

2

Mae datblygiad o fewn y paragraff hwn os y datblygiad yw cyflawni gweithrediadau at y diben o greu cyfleusterau tanddaearol ar gyfer storio nwy mewn ceudodau neu mewn strata mân-dyllog naturiol, ac os bodlonir un o’r amodau ym mharagraff (5).

3

Mae datblygiad o fewn y paragraff hwn os—

a

y datblygiad yw dechrau defnyddio cyfleusterau tanddaearol ar gyfer storio nwy ac eithrio mewn strata mân-dyllog naturiol;

b

trawsgludwr nwy yw’r datblygwr arfaethedig; ac

c

bodlonir un o’r amodau ym mharagraff (5).

4

Mae datblygiad o fewn y paragraff hwn os —

a

y datblygiad yw dechrau defnyddio cyfleusterau tanddaearol ar gyfer storio nwy mewn ceudodau neu mewn strata mân-dyllog naturiol;

b

nad trawsgludwr nwy yw’r datblygwr arfaethedig; ac

c

bodlonir un o’r amodau ym mharagraff (5).

5

Yr amodau yw—

a

bod cynhwysedd gweithredol disgwyliedig y cyfleusterau yn 43 miliwn metr ciwbig safonol, o leiaf;

b

bod cyfradd llif uchaf ddisgwyliedig y cyfleusterau yn 4.5 miliwn metr ciwbig safonol y diwrnod, o leiaf.

6

Mae datblygiad o fewn y paragraff hwn os —

a

y datblygiad yw cyflawni gweithrediadau at y diben o addasu cyfleusterau tanddaearol at y diben o storio nwy mewn ceudodau neu mewn strata mân-dyllog naturiol, a

b

effaith ddisgwyliedig yr addasu yw—

i

cynyddu cynhwysedd gweithredol y cyfleusterau o 43 miliwn metr ciwbig safonol, o leiaf, neu

ii

cynyddu cyfradd llif uchaf y cyfleusterau o 4.5 miliwn metr ciwbig safonol y diwrnod, o leiaf.

7

Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “cyfradd llif uchaf” (“maximum flow rate”) yw’r gyfradd uchaf y gall nwy lifo allan o’r cyfleusterau yn unol â hi, gan ragdybio—

    1. a

      bod y cyfleusterau wedi eu llenwi hyd at eu cynhwysedd mwyaf, a

    2. b

      y mesurir y gyfradd ar ôl unrhyw brosesu sy’n ofynnol ar y nwy wrth ei adfer o’r storfa;

  • ystyr “cynhwysedd gweithredol” (“working capacity”) yw cynhwysedd y cyfleusterau ar gyfer storio nwy yn danddaearol, gan ddiystyru unrhyw gynhwysedd sydd ar gyfer storio nwy clustogi; ac

  • ystyr “nwy clustogi” (“cushion gas”) yw nwy a gedwir mewn cyfleusterau tanddaearol at y diben o alluogi adfer o’r storfa nwy arall a storiwyd ynddi.

Cyfleusterau ar gyfer nwy naturiol hylifedig (LNG)6

1

Nid yw adeiladu cyfleuster LNG o fewn rheoliad 3(1)(c) ac eithrio (ar ôl adeiladu’r cyfleuster) pan fo—

a

cynhwysedd storio disgwyliedig y cyfleuster yn 43 miliwn metr ciwbig safonol, o leiaf, neu

b

cyfradd llif uchaf ddisgwyliedig y cyfleuster yn 4.5 miliwn metr ciwbig safonol y diwrnod, o leiaf.

2

Nid yw addasu cyfleuster LNG o fewn rheoliad 3(1)(c) ac eithrio pan fo effaith ddisgwyliedig yr addasiad yn cynyddu—

a

y cynhwysedd storio yn y cyfleuster o 43 miliwn metr ciwbig safonol, o leiaf, neu

b

cyfradd llif uchaf y cyfleuster o 4.5 miliwn metr ciwbig safonol y diwrnod, o leiaf.

3

Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “cyfradd llif uchaf” (“maximum flow rate”) yw’r gyfradd uchaf y gall nwy lifo allan o’r cyfleuster yn unol â hi, gan ragdybio—

    1. a

      bod y cyfleuster wedi ei lenwi hyd at ei gynhwysedd mwyaf, a

    2. b

      y mesurir y gyfradd ar ôl ail-nwyeiddio’r nwy hylifedig naturiol ac unrhyw brosesu arall sy’n ofynnol wrth adfer y nwy o’r storfa;

  • ystyr “cyfleuster LNG” (“LNG facility”) yw cyfleuster ar gyfer—

    1. a

      derbyn nwy hylifedig naturiol o’r tu allan i Gymru,

    2. b

      storio’r nwy hwnnw, ac

    3. c

      ail-nwyeiddio’r nwy hwnnw;

  • ystyr “cynhwysedd storio” (“storage capacity”) yw cynhwysedd y cyfleuster ar gyfer storio’r nwy naturiol hylifedig, a fesurir fel pe bai’r nwy wedi ei storio yn ei ffurf ail-nwyeiddiedig.

Cyfleusterau derbyn nwy7

1

Nid yw adeiladu cyfleuster derbyn nwy o fewn rheoliad 3(1)(d) ac eithrio (ar ôl adeiladu’r cyfleuster) pan fo—

a

y cyfleuster o fewn paragraff (3), a

b

cyfradd llif uchaf ddisgwyliedig y cyfleuster yn 4.5 miliwn metr ciwbig safonol y diwrnod, o leiaf.

2

Nid yw addasu cyfleuster derbyn nwy o fewn rheoliad 3(1)(d) ac eithrio pan fo—

a

y cyfleuster o fewn paragraff (3), a

b

effaith ddisgwyliedig yr addasiad yn cynyddu cyfradd llif uchaf y cyfleuster o 4.5 miliwn metr ciwbig safonol y diwrnod, o leiaf.

3

Mae cyfleuster derbyn nwy o fewn y paragraff hwn os—

a

nad yw’r nwy a drinnir yn y cyfleuster yn tarddu o Gymru, Lloegr neu’r Alban,

b

nad yw’r nwy yn cyrraedd y cyfleuster o Loegr neu’r Alban, ac

c

nad yw’r nwy wedi ei drin eisoes mewn cyfleuster arall ar ôl cyrraedd Cymru.

4

Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “cyfleuster derbyn nwy” (“gas reception facility”) yw gyfleuster ar gyfer—

    1. a

      derbyn nwy naturiol yn ei ffurf nwyol o’r tu allan i Gymru, a

    2. b

      trin nwy naturiol (rywfodd ac eithrio drwy ei storio);

  • ystyr “cyfradd llif uchaf” (“maximum flow rate”) yw’r gyfradd uchaf y gall nwy lifo allan o’r cyfleuster yn unol â hi.

Meysydd awyr8

1

Nid yw datblygiad mewn perthynas â maes awyr o fewn o fewn rheoliad 3(1)(e) ac eithrio pan y datblygiad yw—

a

adeiladu maes awyr o fewn paragraff (2),

b

addasu maes awyr o fewn paragraff (3), neu

c

gwneud cynnydd, sydd o fewn paragraff (4), yn y defnydd a ganiateir o faes awyr.

2

Nid yw adeiladu maes awyr o fewn y paragraff hwn ac eithrio pan ddisgwylir y gall y maes awyr (ar ôl ei adeiladu) ddarparu—

a

gwasanaethau cludiant teithwyr awyr ar gyfer o leiaf un filiwn o deithwyr bob blwyddyn, neu

b

gwasanaethau cludiant nwyddau awyr ar gyfer o leiaf 5,000 o symudiadau cludiant awyr gan awyrennau nwyddau bob blwyddyn.

3

Nid yw addasu maes awyr o fewn y paragraff hwn ac eithrio pan ddisgwylir i’r addasiad gynyddu—

a

nifer y teithwyr y gall y maes awyr ddarparu gwasanaethau cludiant teithwyr awyr iddynt, o un filiwn y flwyddyn, o leiaf, neu

b

nifer y symudiadau cludiant awyr gan awyrennau nwyddau y gall y maes awyr ddarparu gwasanaethau cludiant nwyddau awyr ar eu cyfer, o 5,000 y flwyddyn, o leiaf.

4

Nid yw cynnydd yn y defnydd a ganiateir o faes awyr o fewn y paragraff hwn ac eithrio pan fo’n gynnydd o—

a

un filiwn y flwyddyn, o leiaf, yn nifer y teithwyr y caniateir i’r maes awyr ddarparu gwasanaethau cludiant teithwyr awyr iddynt, neu

b

5,000 y flwyddyn, o leiaf, yn nifer y symudiadau cludiant awyr gan awyrennau nwyddau y caniateir i’r maes awyr ddarparu gwasanaethau cludiant nwyddau awyr iddynt.

5

Yn y rheoliad hwn—

  • mae “addasu”/“addasiad” (“alteration”) yn cynnwys adeiladu, estyn neu addasu—

    1. a

      rhedfa yn y maes awyr,

    2. b

      adeilad yn y maes awyr, ac

    3. c

      mast radar neu radio, antena neu gyfarpar arall yn y maes awyr;

  • ystyr “awyren nwyddau” (“cargo aircraft”) yw awyren sydd—

    1. a

      wedi ei chynllunio i gludo nwyddau ond nid teithwyr, a

    2. b

      sy’n ymgymryd â chludo nwyddau ar delerau masnachol;

  • ystyr “gwasanaethau cludiant nwyddau awyr” (“air cargo transport services”) yw gwasanaethau ar gyfer cludo nwyddau drwy’r awyr;

  • ystyr “gwasanaethau cludiant teithwyr awyr” (“air passenger transport services”) yw gwasanaethau ar gyfer cludo teithwyr drwy’r awyr;

  • mae “nwyddau” (“cargo”) yn cynnwys post;

  • ystyr “symudiad cludiant awyr” (“air transport movement”) yw glaniad neu esgyniad awyren.

Rheilffyrdd9

1

Nid yw adeiladu rheilffordd o fewn rheoliad 3(1)(f) ac eithrio pan fo’r rheilffordd (ar ôl ei hadeiladu)—

a

yn gyfan gwbl neu’n rhannol yng Nghymru (yn ddarostyngedig i baragraff (2)),

b

yn rhan o rwydwaith a weithredir gan weithredwr cymeradwy, ac

c

yn cynnwys darn o drac di-dor sydd â’i hyd yn fwy na dau gilometr,

yn ddarostyngedig i baragraff (5).

2

Yn achos rheilffordd sydd (ar ôl ei hadeiladu) yn rhannol yng Nghymru, ni fydd adeiladu’r rheilffordd o fewn rheoliad 3(1)(f) ac eithrio i’r graddau y mae darn o drac di-dor sy’n fwy na dau gilometr o hyd yng Nghymru.

3

Nid yw addasu rheilffordd o fewn rheoliad 3(1)(f) ac eithrio pan fo—

a

y rhan o’r rheilffordd sydd i’w haddasu yn gyfan gwbl neu’n rhannol yng Nghymru (yn ddarostyngedig i baragraff (4)),

b

y rheilffordd yn rhan o rwydwaith a weithredir gan weithredwr cymeradwy, ac

c

yr addasiad i’r rheilffordd yn cynnwys gosod darn o drac di-dor sydd â’i hyd yn fwy na dau gilometr,

yn ddarostyngedig i baragraff (5).

4

Yn achos rheilffordd sydd (ar ôl ei haddasu) yn rhannol yng Nghymru nid yw’r addasiad i’r rheilffordd o fewn rheoliad 3(1)(f) ac eithrio i’r graddau y mae’r darn o drac addasedig yng Nghymru yn ddarn di-dor o fwy na dau gilometr.

5

Nid yw adeiladu neu addasu rheilffordd o fewn rheoliad 3(1)(f) i’r graddau y mae’r rheilffordd yn ffurfio rhan (neu y bydd yn ffurfio rhan ar ôl ei hadeiladu) o gyfnewidfa nwyddau rheilffordd.

6

Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “gweithredwr cymeradwy” (“approved operator”) yw person—

    1. a

      a awdurdodwyd i fod yn weithredwr rhwydwaith gan drwydded a roddwyd o dan adran 8 o Ddeddf Rheilffyrdd 19936 (trwyddedau ar gyfer gweithredu asedau rheilffordd), neu

    2. b

      sydd yn is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr cwmni sydd yn berson o’r fath.

    mae i “is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr” yr ystyr a roddir i “wholly-owned subsidiary” yn Neddf Cwmnïau 20067;

    ystyr “rheilffordd” yw—

    1. a

      rheilffordd;

    2. b

      tramffordd; neu

    3. c

      system drafnidiaeth sy’n defnyddio dull arall o drafnidiaeth gyfeiriedig, nad yw’n system o gerbydau troli.

    mae i “rhwydwaith” yr ystyr a roddir i “network” gan adran 83(1) o Ddeddf Rheilffyrdd 19938;

  • mae “trac addasedig” (“altered track”) yn cynnwys trac ychwanegol, amnewidiol neu wyredig.

Cyfnewidfeydd nwyddau rheilffordd10

1

Nid yw adeiladu cyfnewidfa nwyddau rheilffordd o fewn rheoliad 3(1)(g) ac eithrio pan ddisgwylir (ar ôl ei hadeiladu) y bodlonir mewn perthynas â hi bob un o’r amodau ym mharagraffau (3) i (5).

2

Nid yw addasu cyfnewidfa nwyddau rheilffordd o fewn rheoliad 3(1)(g) ac eithrio pan ddisgwylir (ar ôl yr addasu) y bodlonir mewn perthynas â hi bob un o’r amodau ym mharagraffau (3) i (5).

3

Yr amod cyntaf yw bod y gyfnewidfa nwyddau rheilffordd yn gallu trin—

a

llwythi o nwyddau oddi wrth fwy nag un traddodwr ac i fwy nag un derbynnydd, a

b

o leiaf ddau drên nwyddau bob dydd.

4

Yr ail amod yw bod y gyfnewidfa nwyddau rheilffordd yn cynnwys warysau y gellir anfon nwyddau iddynt o’r rhwydwaith rheilffyrdd, naill ai’n uniongyrchol neu drwy gyfrwng math arall o drafnidiaeth.

5

Y trydydd amod yw nad yw’r gyfnewidfa nwyddau rheilffordd yn rhan o sefydliad milwrol.

6

Yn y rheoliad hwn—

  • mae i “rhwydwaith”, “stoc rholio” a “trên”, yn eu trefn, yr ystyron a roddir i “network”, “rolling stock” a “train” gan adran 83(1) o Ddeddf Rheilffyrdd 1993;

  • ystyr “sefydliad milwrol” (“military establishment”) yw sefydliad a fwriedir ar ddibenion y llynges, y fyddin neu’r llu awyr, neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn; ac

  • ystyr “trên nwyddau” (“goods train”) (os diystyrir unrhyw locomotif) yw trên a gyfansoddir o eitemau o stoc rholio a gynlluniwyd ar gyfer cludo nwyddau.

Argaeau a chronfeydd dŵr11

1

Nid yw adeiladu argae neu gronfa ddŵr o fewn rheoliad 3(1)(h) ac eithrio pan fo cyfaint disgwyliedig y dŵr a gedwir yn ôl gan yr argae neu sydd wedi ei storio yn y gronfa yn fwy na 10 miliwn metr ciwbig.

2

Nid yw addasu argae neu gronfa ddŵr o fewn rheoliad 3(1)(h) ac eithrio pan fo cyfaint ychwanegol disgwyliedig y dŵr a gedwir yn ôl gan yr argae neu a fydd wedi ei storio yn y gronfa, o ganlyniad i’r addasiad, yn fwy na 10 miliwn metr ciwbig.

Trosglwyddo adnoddau dŵr12

1

Nid yw datblygiad sy’n ymwneud â throsglwyddo adnoddau dŵr o fewn rheoliad 3(1)(i) ac eithrio pan—

a

cyflawnir y datblygiad gan un neu ragor o ymgymerwyr dŵr,

b

disgwylir y bydd cyfaint y dŵr sydd i’w drosglwyddo o ganlyniad i’r datblygiad yn fwy na 100 miliwn metr ciwbig y flwyddyn,

c

bydd y datblygiad yn galluogi trosglwyddo adnoddau dŵr—

i

rhwng basnau afonydd yng Nghymru,

ii

rhwng ardaloedd ymgymerwyr dŵr yng Nghymru, neu

iii

rhwng basn afon yng Nghymru ac ardal ymgymerwr dŵr yng Nghymru, a

d

nad yw’r datblygiad yn ymwneud â throsglwyddo dŵr yfed.

2

Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “basn afon” (“river basin”) yw arwynebedd o dir a ddraenir gan afon a’i his-afonydd;

  • ystyr “ymgymerwr dŵr” (“water undertaker”) yw cwmni a benodwyd yn ymgymerwr dŵr o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 (penodi ymgymerwyr perthnasol)9;

  • ystyr “ardal ymgymerwr dŵr” (“water undertaker’s area”) yw’r ardal y penodwyd ymgymerwr dŵr ar ei chyfer o dan y Ddeddf honno.

Gweithfeydd trin dŵr gwastraff13

1

Nid yw adeiladu gwaith trin dŵr gwastraff o fewn rheoliad 3(1)(j) ac eithrio pan fo capasiti disgwyliedig y gwaith trin (ar ôl ei adeiladu) yn fwy na chyfwerth poblogaeth o 500,000.

2

Nid yw adeiladu seilwaith ar gyfer trosglwyddo neu storio dŵr gwastraff o fewn rheoliad 3(1)(j) ac eithrio pan—

a

prif ddiben y seilwaith yw—

i

trosglwyddo’r dŵr gwastraff ar gyfer ei drin, neu

ii

storio dŵr gwastraff cyn ei drin,

neu’r ddau, a

b

disgwylir i’r seilwaith fod â’r gallu i storio mwy na 350,000 metr ciwbig o ddŵr gwastraff.

3

Nid yw addasu gwaith trin dŵr gwastraff o fewn rheoliad 3(1)(j) ac eithrio pan effaith ddisgwyliedig yr addasiad yw cynnydd yng nghapasiti’r gwaith trin o fwy na chyfwerth poblogaeth o 500,000.

4

Nid yw addasu seilwaith ar gyfer trosglwyddo neu storio dŵr gwastraff o fewn rheoliad 3(1)(j) ac eithrio pan—

a

prif ddiben y seilwaith yw—

i

trosglwyddo’r dŵr gwastraff ar gyfer ei drin, neu

ii

storio dŵr gwastraff cyn ei drin,

neu’r ddau, a

b

effaith ddisgwyliedig yr addasiad yw cynnydd yng nghapasiti’r seilwaith ar gyfer storio dŵr gwastraff o fwy na 350,000 metr ciwbig.

5

Yn y rheoliad hwn—

  • mae “dŵr gwastraff” (“waste water”) yn cynnwys dŵr gwastraff domestig, dŵr gwastraff diwydiannol a dŵr gwastraff trefol; ac

  • mae i’r termau “dŵr gwastraff domestig”, “dŵr gwastraff diwydiannol”, “cyfwerth poblogaeth” a “dŵr gwastraff trefol”, yn eu trefn, yr ystyron a roddir i “domestic waste water”, “industrial waste water”, “population equivalent” ac “urban waste water” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Trin Dŵr Gwastraff Trefol (Cymru a Lloegr) 199410.

Cyfleusterau gwastraff peryglus14

1

Nid yw adeiladu cyfleuster gwastraff peryglus o fewn rheoliad 3(1)(k) ac eithrio pan—

a

prif ddiben y cyfleuster yw gwaredu gwastraff peryglus yn derfynol neu ei adfer, a

b

disgwylir i’r cyfleuster fod â’r capasiti a bennir ym mharagraff (2).

2

Y capasiti yw—

a

yn achos gwaredu gwastraff peryglus drwy dirlenwi neu mewn cyfleuster storio dwfn, mwy na 100,000 tunnell y flwyddyn;

b

mewn unrhyw achos arall, mwy na 30,000 tunnell y flwyddyn.

3

Nid yw addasu cyfleuster gwastraff peryglus o fewn rheoliad 3(1)(k) ac eithrio pan—

a

prif ddiben y cyfleuster yw gwaredu gwastraff peryglus yn derfynol neu ei adfer, a

b

disgwylir i’r addasiad gynyddu capasiti’r cyfleuster—

i

yn achos gwaredu gwastraff peryglus drwy dirlenwi neu mewn cyfleuster storio dwfn, o fwy na 100,000 tunnell y flwyddyn;

ii

mewn unrhyw achos arall, o fwy na 30,000 tunnell y flwyddyn.

4

Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “cyfleuster storio dwfn” (“deep storage facility”) yw cyfleuster ar gyfer storio gwastraff yn danddaearol mewn ceudod daearegol dwfn; ac

mae i’r termau “gwaredu”, “gwastraff peryglus” ac “adfer”, yn eu trefn, yr ystyron a roddir i “disposal”, “hazardous waste” a “recovery” yn Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru a Lloegr) 200511.

RHAN 3Cydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig

Cydsyniadau Rhagnodedig15

Mae’r cydsyniadau a restrir yn yr Atodlen wedi eu rhagnodi at ddibenion Deddf 1990.

Gorchmynion priffyrdd: diwygiadau canlyniadol16

1

Diwygir adran 252 o Ddeddf 1990 fel a ganlyn.

2

Ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

3A

Where the Welsh Ministers are proposing to make an order under section 247, 248 or 251 in connection with development of national significance—

a

subsection (1) has effect as if for “shall” there were substituted “may”;

b

subsections (2) and (3) apply only if the Welsh Ministers publish a notice under subsection (1).

3

Ar ôl is-adran (6A) mewnosoder—

6B

Where the Welsh Ministers are proposing to make an order under section 247, 248 or 251 in connection with development of national significance, subsections (6C) and (6D) apply in place of subsections (4) to (6).

6C

The Welsh Ministers may cause a local inquiry to be held if—

a

they have published notice under subsection (1)(b),

b

before the end of the period of 28 days mentioned in subsection (1)(b) they receive an objection from a person mentioned in subsection (2)(a) to (b), or from any other person appearing to them to be affected by the order, and

c

the objection is not withdrawn.

6D

Subsections (2) and (3) of section 250 of the Local Government Act 1972 and section 322C apply in relation to an inquiry caused to be held by the Welsh Ministers under subsection (6C).

4

Yn isadran (12), o flaen y diffiniad o “the relevant area” mewnosoder—

  • “development of national significance” is to be interpreted in accordance with section 62D;

Carl SargeantY Gweinidog Adnoddau Naturiol, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLEN

Rheoliad 15

1

Cydsyniad o dan adran 2(3) o Ddeddf Henebion a Mannau Archeolegol 197912 (rheoli gwaith sy’n effeithio ar henebion rhestredig).

2

Cydsyniad o dan adran 178(1) o Ddeddf Priffyrdd 198013 (cyfyngu ar osod rheiliau, trawstiau etc dros briffyrdd).

3

Cydsyniad o dan adran 8(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 14 (awdurdodi gwaith: cydsyniad adeilad rhestredig).

4

Cydsyniad o dan adran 74(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 15 (rheoli dymchwel mewn ardaloedd cadwraeth).

5

Cydsyniad o dan adran 4(1) o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 199016 (gofyniad am gydsyniad sylweddau peryglus).

6

Cydsyniad o dan adran 13 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 17 (cais am gydsyniad sylweddau peryglus heb amod a osodwyd ar gydsyniad blaenorol ).

7

Cydsyniad o dan adran 17 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 18 (dirymu cydsyniad sylweddau peryglus pan newidir rheolaeth tir).

8

Caniatâd cynllunio o dan adran 57(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (caniatâd cynllunio yn ofynnol ar gyfer datblygiad) ac eithrio caniatâd cynllunio amlinellol19.

9

Awdurdodiad o dan adran 247(1) o Ddeddf 199020 (gorchymyn yn awdurdodi cau neu ailgyfeirio priffordd).

10

Awdurdodiad o dan adran 248(2) o Ddeddf 199021 (gorchymyn yn awdurdodi cau neu ailgyfeirio priffordd sy’n croesi neu’n ymuno â llwybr priffordd newydd arfaethedig).

11

Gorchymyn o dan adran 251(1) o Ddeddf 199022 (gorchymyn yn diddymu hawliau tramwy cyhoeddus dros dir a ddelir at ddibenion cynllunio).

12

Cydsyniad y gofynnir amdano o dan adran 16(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 200623 (dadgofrestru a chyfnewid: ceisiadau).

13

Cydsyniad sy’n ofynnol gan adran 38(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (gwahardd gwneud gwaith heb gydsyniad).

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu’r meini prawf ar gyfer datblygiad sydd o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion adran 62D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”)24.

Mae rheoliad 3 yn pennu’r mathau o ddatblygiad a allai fod o arwyddocâd cenedlaethol: gorsafoedd cynhyrchu; cyfleusterau storio nwy tanddaearol; cyfleusterau ar gyfer nwy naturiol hylifedig; cyfleusterau derbyn nwy; meysydd awyr ; rheilffyrdd; cyfnewidfeydd nwyddau rheilffordd; argaeau a chronfeydd dŵr; trosglwyddo adnoddau dŵr; gweithfeydd trin dŵr gwastraff a chyfleusterau gwastraff peryglus.

Mae rheoliadau 4-14 yn nodi’r meini prawf sy’n gymwys mewn perthynas â phob un o’r mathau o ddatblygiad.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn rhagnodi cydsyniadau at ddibenion Deddf 1990 ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol. Y cydsyniadau a ragnodir yw “cydsyniadau eilaidd” at ddibenion adrannau 62E i 62G o’r Ddeddf honno (rheoliad 15 a’r Atodlen).

Effaith rhagnodi cydsyniad gan y Rheoliadau hyn yw gall Gweinidogion Cymru ystyried y cydsyniad hwnnw ochr yn ochr â chais a wneir iddynt am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol.

Mae asesiad effaith wedi ei baratoi mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Mae copïau ohono ar gael gan Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk.