NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu’r meini prawf ar gyfer datblygiad sydd o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion adran 62D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”)(1).

Mae rheoliad 3 yn pennu’r mathau o ddatblygiad a allai fod o arwyddocâd cenedlaethol: gorsafoedd cynhyrchu; cyfleusterau storio nwy tanddaearol; cyfleusterau ar gyfer nwy naturiol hylifedig; cyfleusterau derbyn nwy; meysydd awyr ; rheilffyrdd; cyfnewidfeydd nwyddau rheilffordd; argaeau a chronfeydd dŵr; trosglwyddo adnoddau dŵr; gweithfeydd trin dŵr gwastraff a chyfleusterau gwastraff peryglus.

Mae rheoliadau 4-14 yn nodi’r meini prawf sy’n gymwys mewn perthynas â phob un o’r mathau o ddatblygiad.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn rhagnodi cydsyniadau at ddibenion Deddf 1990 ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol. Y cydsyniadau a ragnodir yw “cydsyniadau eilaidd” at ddibenion adrannau 62E i 62G o’r Ddeddf honno (rheoliad 15 a’r Atodlen).

Effaith rhagnodi cydsyniad gan y Rheoliadau hyn yw gall Gweinidogion Cymru ystyried y cydsyniad hwnnw ochr yn ochr â chais a wneir iddynt am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol.

Mae asesiad effaith wedi ei baratoi mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Mae copïau ohono ar gael gan Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk.

(1)

Mae datblygiad yng Nghymru yn ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol hefyd os yw wedi ei bennu fel y cyfryw yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, gweler adran 62D(4) o Ddeddf 1990.