Offerynnau Statudol Cymru

2016 No. 53 (Cy. 23)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016

Gwnaed

27 Ionawr 2016

Yn dod i rym

1 Mawrth 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 62D and 62H o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1), ac a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 333 o’r Ddeddf honno(2) ac sydd bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru(3), ac a roddwyd iddynt gan adran 57 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

(1)

1990 p. 8. Mewnosodwyd adran 62D gan adran 19 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc. 4), a mewnosodwyd adran 62H gan adran 20, o’r Ddeddf honno.

(2)

Diwygiwyd adran 333 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 gan adran 55 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 a pharagraff 3 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno. Gwnaed diwygiadau eraill i adran 333 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(3)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno.