NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw’r trydydd gorchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”).

Mae erthygl 2 yn dwyn yr adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015 i rym ar 1 Mawrth 2016:

  • adran 17 (gofyniad i gynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio);

  • adran 18 (gofyniad i ddarparu gwasanaethau cyn ymgeisio);

  • adran 19 (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: ceisiadau am ganiatâd cynllunio);

  • adran 20 (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: cydsyniadau eilaidd);

  • adran 21 (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: adroddiadau effaith lleol);

  • adran 22 (yr amserlen ar gyfer penderfynu ceisiadau); ac

  • adran 49 (costau ceisiadau, apelau a chyfeiriadau).

Mae erthygl 3 yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2015 i rym ar 1 Mawrth 2016 i’r graddau y maent yn ymwneud â datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol a chydsyniadau eilaidd:

  • adran 24 (darpariaeth bellach ynghylch ceisiadau a wneir i Weinidogion Cymru);

  • adran 25 (pŵer i wneud darpariaeth drwy orchymyn datblygu mewn cysylltiad â cheisiadau i Weinidogion Cymru);

  • adran 26 (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol a cheisiadau a wneir i Weinidogion Cymru: arfer swyddogaethau gan berson penodedig);

  • adran 27 (ceisiadau i Weinidogion Cymru: diwygiadau pellach);

  • adran 33 (hysbysiadau penderfynu);

  • adran 34 (hysbysiad am ddatblygiad);

  • adran 50 (y weithdrefn ar gyfer achosion penodol);

  • Atodlen 3 (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol a cheisiadau a wneir i Weinidogion Cymru: arfer swyddogaethau gan berson penodedig); ac

  • Atodlen 4 (ceisiadau i Weinidogion Cymru: diwygiadau pellach).

Mae erthygl 4 yn dwyn adran 51 o Ddeddf 2015 (costau a’r weithdrefn wrth apelio etc: diwygiadau pellach) i rym ar 1 Mawrth 2016 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny o Atodlen 5 (costau a’r weithdrefn wrth apelio etc: diwygiadau pellach) a restrir yn yr erthygl honno.

Mae erthygl 5 yn dwyn yr adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015 i rym ar 16 Mawrth 2016:

  • adran 28 (pŵer awdurdod cynllunio lleol i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei rhoi gyda chais);

  • adran 29 (ceisiadau annilys: hysbysu ac apelio);

  • adran 30 (dirymu arbed Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau) 1988);

  • adran 32 (pŵer i wrthod penderfynu ar ôl-gais);

  • adran 33 (hysbysiadau penderfynu);

  • adran 34 (hysbysiad am ddatblygiad);

  • adran 35 (cyfnod para caniatâd cynllunio: cyffredinol);

  • adran 36 (cyfnod para caniatâd cynllunio amlinellol);

  • adran 37 (ymgynghori etc mewn cysylltiad â cheisiadau penodol sy’n ymwneud â chaniatâd cynllunio);

  • adran 38 (cau neu wyro llwybrau cyhoeddus pan wneir cais am ganiatâd cynllunio);

  • adran 43 (torri rheolaeth gynllunio: hysbysiad rhybudd gorfodi);

  • adran 44 (apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi: cais tybiedig am ganiatâd cynllunio);

  • adran 45 (cyfyngiadau ar hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio); ac

  • adran 46 (cyfyngiadau ar hawl i apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi).

Mae erthyglau 6 i 17 yn cynnwys darpariaethau trosiannol.