Darpariaethau trosiannol17.
(1)
Nid yw’r diwygiadau a wneir gan y paragraffau hynny o Atodlen 5 i Ddeddf 2015 a restrir yn erthygl 4 yn gymwys i achosion a gychwynnir cyn 1 Mawrth 2016.
(2)
At ddibenion paragraff (1) ystyr “a gychwynnir” (“instituted”) yw—
(a)
mewn perthynas ag adran 121 o Ddeddf Priffyrdd 1980, bod y cwestiwn o ba un a yw atal cydsyniad yn afresymol neu ba un a yw unrhyw ddarpariaeth yn rhesymol yn dod yn benderfyniad i Weinidogion Cymru;
(b)
mewn perthynas ag adran 28F o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, bod apêl yn cyrraedd Gweinidogion Cymru;
(c)
mewn perthynas ag adran 28L o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, y gwneir apêl o dan adran 28L(1);
(d)
mewn perthynas ag Atodlen 15 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, y cyflwynir gorchymyn i Weinidogion Cymru i’w gadarnhau o dan baragraff 7 o’r Atodlen honno;
(e)
mewn perthynas ag adran 175 o Ddeddf 1990, y rhoddir hysbysiad ysgrifenedig am apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990;
(f)
mewn perthynas ag adran 196 o Ddeddf 1990, y cyflwynir hysbysiad am apêl o dan adran 195 o Ddeddf 1990;
(g)
mewn perthynas ag adran 208 o Ddeddf 1990, y rhoddir neu yr anfonir hysbysiad ysgrifenedig am apêl;
(h)
mewn perthynas ag adran 320 o Ddeddf 1990, y perir i ymchwiliad lleol gael ei gynnal;
(i)
mewn perthynas ag achos y mae adran 322 o Ddeddf 1990 yn gymwys iddo neu a fyddai’n gymwys iddo ond am baragraff 13 o Atodlen 5 i Ddeddf 2015, y gwneir y cais neu’r cyfeiriad neu y rhoddir yr hysbysiad am apêl;
(j)
mewn perthynas ag achos y mae adran 322A o Ddeddf 1990 yn gymwys iddo neu a fyddai’n gymwys iddo ond am baragraff 14 o Atodlen 5 i Ddeddf 2015, ei bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau i wrandawiad neu ymchwiliad gael ei gynnal neu wneud trefniadau ar gyfer gwrandawiad neu ymchwiliad yn unol ag adran 319B o Ddeddf 1990;
(k)
mewn perthynas ag apêl o dan Ddeddf 1990 y mae Atodlen 6 i’r Ddeddf honno’n gymwys iddi, bod person penodedig yn penderfynu cynnal gwrandawiad neu ymchwiliad lleol neu y cyfarwyddir ef gan Weinidogion Cymru i gynnal ymchwiliad lleol;
(l)
mewn perthynas ag Atodlen 8 i Ddeddf 1990, y gwneir cyfeiriad at y Comisiwn Ymchwiliad Cynllunio gan Weinidogion Cymru;
(m)
mewn perthynas ag adran 41 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, y rhoddir hysbysiad am apêl o dan adran 39 o’r Ddeddf honno;
(n)
mewn perthynas ag apêl o dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 y mae Atodlen 3 i’r Ddeddf honno’n gymwys iddi, bod person penodedig yn penderfynu cynnal gwrandawiad neu ymchwiliad lleol neu y cyfarwyddir ef gan Weinidogion Cymru i gynnal ymchwiliad lleol;
(o)
mewn perthynas ag adran 25 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990, y gwneir apêl o dan yr adran honno; a
(p)
mewn perthynas ag apêl o dan Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 y mae’r Atodlen i’r Ddeddf honno’n gymwys iddi, bod person penodedig yn penderfynu cynnal gwrandawiad neu ymchwiliad lleol neu y cyfarwyddir ef gan Weinidogion Cymru i gynnal ymchwiliad lleol.