3. Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu” (“the Outstanding Liability”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 7;
ystyr “benthyciad at gostau byw” (“loan for living costs”) yw benthyciad a geir gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2016/2017 o dan reoliadau a wneir yn unol ag adran 22 o Ddeddf 1998(1);
ystyr “y benthyciwr” (“the borrower”) yw person sydd wedi cael benthyciad at gostau byw gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2016/2017;
ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau ar 1 Medi, 1 Ionawr, 1 Ebrill neu 1 Gorffennaf yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn ôl a yw’r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst ond cyn 1 Ionawr, ar neu ar ôl 1 Ionawr ond cyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill ond cyn 1 Gorffennaf, neu ar neu ar ôl 1 Gorffennaf ond cyn 1 Awst, yn y drefn honno;
ystyr “Blwyddyn Academaidd 2016/2017” (“A”) yw blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2016 ond cyn 1 Medi 2017;
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act”) yw Deddf Gwerthu Benthyciadau Myfyrwyr 2008(2);
ystyr “y Dyddiad Ad-dalu” (“the Repayment Date”) yw’r diwrnod ar ôl y dyddiad y bernir bod ad-daliad cyntaf y benthyciwr ar ei fenthyciad wedi cael ei dderbyn naill ai gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi neu gan Weinidogion Cymru, pa un bynnag y bernir iddo ei dderbyn gyntaf (yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998(3));
mae i “y Dyddiad Bodloni” (“the Satisfaction Date”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 9;
mae “Gweinidogion Cymru” (“Welsh Ministers”) yn cynnwys unrhyw berson y mae Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu wedi dirprwyo eu swyddogaethau iddo o dan adran 23 o Ddeddf 1998(4) neu unrhyw berson y maent wedi trosglwyddo eu hawliau iddo o dan adran 9 o Ddeddf 2008; ac
mae i “y Swm Penodedig” (“the Specified Amount”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 6.
Mae Gweinidogion Cymru yn talu benthyciadau at gostau byw mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2016/2017 yn unol â Rhan 6 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/54) (Cy. 5).
Ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn, penderfynir ar y dyddiad y bernir bod ad-daliad benthyciwr wedi ei dderbyn yn unol â rheoliad 17 o Reoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) 2009 (O.S. 2009/470) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2010/661, O.S. 2010/1010, O.S. 2011/784, O.S. 2012/836, O.S. 2012/1309, O.S. 2013/388, O.S. 2013/591, O.S. 2013/607, O.S. 2013/1881 ac O.S. 2014/651.
Diwygiwyd adran 23 gan adran 146 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), O.S. 2002/808 ac O.S. 2010/1158.