Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2016
Enwi a chychwyn
1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2016.
(2)
Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Awst 2016.
Cymhwyso
2.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2016/2017.
Dehongli
3.
Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu” (“the Outstanding Liability”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 7;
ystyr “y benthyciwr” (“the borrower”) yw person sydd wedi cael benthyciad at gostau byw gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2016/2017;
ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau ar 1 Medi, 1 Ionawr, 1 Ebrill neu 1 Gorffennaf yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn ôl a yw’r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst ond cyn 1 Ionawr, ar neu ar ôl 1 Ionawr ond cyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill ond cyn 1 Gorffennaf, neu ar neu ar ôl 1 Gorffennaf ond cyn 1 Awst, yn y drefn honno;
ystyr “Blwyddyn Academaidd 2016/2017” (“A”) yw blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2016 ond cyn 1 Medi 2017;
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
mae i “y Dyddiad Bodloni” (“the Satisfaction Date”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 9;
mae i “y Swm Penodedig” (“the Specified Amount”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 6.
Y cymhwyster ar gyfer dileu
4.
Mae benthyciwr yn gymwys i gael y Swm Penodedig o’i Atebolrwydd sydd heb ei Dalu wedi ei ddileu yn yr amgylchiadau a nodir yn rheoliad 5 (“yr Amgylchiadau”).
Yr Amgylchiadau
5.
Yr Amgylchiadau at ddibenion rheoliad 4 yw—
(a)
bod y benthyciwr wedi cael benthyciad at gostau byw; a
(b)
bod Gweinidogion Cymru o’r farn, o ran y benthyciwr, ar y Dyddiad Ad-dalu—
(i)
nad yw wedi torri unrhyw rwymedigaeth a geir mewn unrhyw gytundeb ar gyfer benthyciad myfyriwr neu mewn unrhyw reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
(ii)
nad oes ganddo gosbau, costau, treuliau neu ffioedd sydd heb eu talu mewn perthynas ag unrhyw fenthyciad o’r fath yn unol ag unrhyw gytundeb neu reoliadau o’r fath; a
(iii)
Y Swm Penodedig
6.
Y Swm Penodedig ar gyfer dileu y mae rheoliad 4 yn cyfeirio ato yw’r swm lleiaf o’r canlynol—
(a)
£1,500;
(b)
yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu.
Yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu
7.
(1)
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu yw’r cyfanswm y bernir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr ar y Dyddiad Ad-dalu mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad at gostau byw, ond nid yw’n cynnwys unrhyw log sydd wedi cronni ar y benthyciad hwnnw, nac unrhyw gosbau, costau, treuliau neu ffioedd yr aed iddynt mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad o’r fath.
(2)
At ddibenion rheoliad 9, yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu yw’r cyfanswm y bernir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr ar y Dyddiad Bodloni mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad at gostau byw, ond nid yw’n cynnwys unrhyw log sydd wedi cronni ar y benthyciad hwnnw, nac unrhyw gosbau, costau, treuliau neu ffioedd yr aed iddynt mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad o’r fath.
(3)
Dileu
8.
Yn yr Amgylchiadau yn rheoliad 5, rhaid i Weinidogion Cymru ddileu’r Swm Penodedig gydag effaith o’r Dyddiad Ad-dalu.
9.
Os oes unrhyw un neu ragor o’r Amgylchiadau yn rheoliad 5(b) heb ei fodloni neu eu bodloni ar y Dyddiad Ad-dalu, ond ei fod yn cael ei fodloni neu eu bod yn cael eu bodloni ar ddyddiad diweddarach, caiff Gweinidogion Cymru ddileu’r Swm Penodedig gydag effaith o’r dyddiad y cafodd yr Amgylchiadau eu bodloni yn eu barn hwy (“y Dyddiad Bodloni”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn llywodraethu atebolrwydd dros fenthyciad myfyrwyr sydd gan fyfyrwyr sy’n cael benthyciadau at gostau byw gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd 2016/2017.
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer dileu hyd at £1,500 o atebolrwydd pob benthyciwr am fenthyciad at gostau byw mewn amgylchiadau penodol, gydag effaith o’r diwrnod ar ôl y dyddiad y bernir bod ei ad-daliad cyntaf ar ei fenthyciad wedi ei dderbyn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.