(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Hwn yw’r Gorchymyn Cychwyn cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym baragraff 59 o Atodlen 3 i’r Ddeddf ar 6 Ebrill 2016.
Mae paragraff 59 yn diwygio adran 33 o Ran 2 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (“Deddf 2005”).
Mae Rhan 2 o Ddeddf 2005 yn darparu pwerau i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ymchwilio i gwynion sy’n ymwneud ag awdurdodau rhestredig (o fewn ystyr adran 28 o Ddeddf 2005). Mae Rhan 2 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau rhestredig roi cyhoeddusrwydd i weithdrefnau cwynion (adran 33).
Mewnosododd adran 179 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Ran newydd 2A yn Neddf 2005. Mae Rhan 2A yn darparu pwerau newydd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ymchwilio i gwynion sy’n ymwneud â chyrff newydd: darparwyr cartrefi gofal, darparwyr gofal cartref a darparwyr gofal lliniarol annibynnol.
Mae adran 33 o Ddeddf 2005 yn nodi’r gofynion i awdurdodau rhestredig i roi cyhoeddusrwydd i argaeledd a gweithrediad gweithdrefnau cwynion. Mae paragraff 59 o Atodlen 3 i’r Ddeddf yn mewnosod is-adrannau (8) a (9) yn adran 33, sy’n estyn cymhwysiad darpariaethau’r adran honno i’r cyrff newydd sydd wedi eu gwneud yn ddarostyngedig i awdurdodaeth yr Ombwdsmon.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym baragraffau 60 i 65 o Atodlen 3 i’r Ddeddf ar 6 Ebrill 2016.
Mae paragraffau 60 i 65 yn gwneud diwygiadau amrywiol i ddarpariaethau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 sydd hefyd yn cael eu dwyn i rym ar 6 Ebrill 2016.
Mae’r diwygiadau yn cynnwys diwygiadau i destun Cymraeg darpariaethau penodol, diwygiadau i groesgyfeiriadau penodol yn adran 42 (dyletswydd i ddiwallu anghenion gofalwr sy’n blentyn am gymorth) a diwygiad i’r diffiniad o “sefydliad gwirfoddol” yn adran 197(1) (dehongli cyffredinol).