NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Hwn yw’r wythfed Gorchymyn Cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (“y Ddeddf”) sy’n dwyn i rym ddarpariaethau penodedig yn y Ddeddf o ran Cymru.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn darparu bod adran 8(1) ac 8(2) i’r graddau y mae’r is-adran honno yn ymwneud â pharagraffau penodedig o Atodlen 1, ac adrannau 10 ac 16 o’r Ddeddf yn dod i rym ar 6 Ebrill 2016 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym).

Mae adran 8 yn disodli adran 23 o Ddeddf Plant 1989 (“Deddf 1989”) gydag adrannau newydd 22A i 22F. Mae’n ailddeddfu’r dyletswyddau ar awdurdodau lleol i ddarparu llety i blant sydd yn eu gofal (adran newydd 22A) ac i gynnal pob plentyn sy’n derbyn gofal mewn ffyrdd eraill ar wahân i’r ddarpariaeth o lety (adran newydd 22B).

Mae adran 10(1) a (3) yn rhoi yn lle adran 26(2)(k) a (2A) i (2D) o Ddeddf 1989 adrannau newydd 25A a 25B sy’n nodi: y gofynion sy’n ymwneud â phenodi Swyddog Adolygu Annibynnol ar gyfer pob plentyn sy’n derbyn gofal; swyddogaethau’r Swyddog Adolygu Annibynnol; a darpariaeth gysylltiedig sy’n galluogi i swyddogaethau swyddogion CAFCASS a swyddogion achosion teuluol Cymru gael eu hestyn.

Mae adran 16 yn disodli paragraff 17 o Atodlen 2 i Ddeddf 1989, gan estyn y grŵp o blant sy’n derbyn gofal y mae rhaid penodi ar ei gyfer berson annibynnol i ymweld â’r plentyn, ymgyfeillio ag ef a’i gynghori i gynnwys pob un y byddai penodiad yn fuddiol iddo. Caiff yr awdurdod cenedlaethol priodol drwy reoliadau estyn y rheini y mae’r ddyletswydd yn ddyledus iddynt i grwpiau rhagnodedig eraill o blant sy’n derbyn gofal (is-adran (1)(a)).

Mae erthygl 3 yn cynnwys darpariaeth arbed sy’n darparu, er gwaethaf y diwygiadau a wneir i adran 26 o Ddeddf 1989 wrth i ddarpariaeth o fewn adran 10(3) o’r Ddeddf ddod i rym, fod adran 26 yn parhau i gael effaith heb ei diwygio at ddibenion gwneud rheoliadau o dan baragraff 10(2)(l) o Atodlen 6 i Ddeddf Plant 1989 (rheoliadau o ran lleoli plant mewn cartrefi preifat i blant).