- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer taliadau am wasanaethau a threuliau swyddogion canlyniadau mewn cysylltiad â chynnal etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sydd i’w cynnal ar y cyd ag etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu (yn unol â Phennod 6 o Ran 1 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011) ar yr un dyddiad yn 2016. Mae’r symiau a ddynodir yn y Gorchymyn hwn fel y cyfansymiau mwyaf sy’n adenilladwy am wasanaethau penodedig ac am dreuliau penodedig swyddogion canlyniadau wedi cymryd i ystyriaeth y darpariaethau a gynhwysir yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Cyfuno Etholiadau a Diwygio) 2016 (O.S. 2016/272) sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y costau hyn yn cael eu rhannu’n gyfartal rhwng etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu.
Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2011 (O.S. 2011/632 (Cy. 92)) a Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2012 (O.S. 2012/2478 (Cy. 270)). Fe’i gwneir o dan erthygl 23 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (O.S. 2007/236). Mae erthygl 23 yn darparu bod hawl gan swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol i adennill taliadau mewn cysylltiad â gwasanaethau a ddarparwyd neu dreuliau yr aed iddynt mewn cysylltiad ag etholiad Cynulliad.
Mae erthyglau 4, 5 a 6 o’r Gorchymyn hwn yn pennu’r cyfansymiau mwyaf sy’n adenilladwy gan swyddogion canlyniadau etholaethau pob etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod ag etholiad comisiynwyr heddlu a throseddu.
Mae’r tabl yn Atodlen 1 yn rhestru, yn ôl etholaeth, y cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am wasanaethau penodedig (colofn 2), y cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am dreuliau penodedig (colofn 3) a’r cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy (colofn 4).
Mae erthyglau 7, 8 a 9 yn pennu’r cyfansymiau mwyaf sy’n adenilladwy gan swyddogion canlyniadau rhanbarthol pob etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod ag etholiad comisiynwyr heddlu a throseddu.
Mae’r tabl yn Atodlen 2 yn rhestru, yn ôl rhanbarth etholiadol, y cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am wasanaethau penodedig (colofn 2), y cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am dreuliau penodedig (colofn 3) a’r cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy (colofn 4).
Yn achos etholiad nas ymleddir mewn etholaeth Cynulliad, mae erthygl 10 yn darparu nad yw erthyglau 4 i 6 yn gymwys. Yn lle hynny, y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy yw £1,750 am bob etholaeth Cynulliad.
Yn achos etholiad nas ymleddir mewn rhanbarth y Cynulliad, mae erthygl 11 yn darparu nad yw erthyglau 7 i 9 yn gymwys. Yn lle hynny, y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy yw £350 am bob rhanbarth y Cynulliad.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: