xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
3.—(1) Er gwaethaf y diwygiadau sydd wedi eu gwneud gan y Rheoliadau hyn, ar neu ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym—
(a)caniateir i gymorth neu wasanaethau barhau i gael eu darparu, a
(b)caniateir i daliadau tuag at gost cymorth neu wasanaethau barhau i gael eu gwneud,
yn achos person y mae cymorth neu wasanaethau yn cael eu darparu iddo neu mewn perthynas ag ef, neu y mae taliadau yn cael eu gwneud iddo neu mewn perthynas ag ef tuag at gost cymorth neu wasanaethau, yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
(2) Mae is-baragraff (1) yn gymwys—
(a)hyd nes y bydd Rhan 4 o’r Ddeddf yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth neu wasanaethau, neu wneud taliadau tuag at gost cymorth neu wasanaethau, yn achos y person hwnnw yn rhinwedd darpariaeth drosiannol sydd wedi ei gwneud mewn gorchymyn o dan adran 199(2) o’r Ddeddf (cychwyn), neu
(b)os yw’n gynharach, tan 31 Mawrth 2017.
(3) Er gwaethaf y diwygiadau sydd wedi eu gwneud gan y Rheoliadau hyn—
(a)mae unrhyw ddarpariaeth sy’n gweithredu mewn perthynas â chymorth neu wasanaethau a ddarperir, neu drwy gyfeirio atynt, neu daliadau a wneir tuag at gost cymorth neu wasanaethau, cyn neu (yn unol ag is-baragraff (1)) ar neu ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, a
(b)mae unrhyw beth a wneir o dan y ddarpariaeth honno,
yn parhau i gael effaith at ddiben y cymorth hwnnw neu’r gwasanaethau neu’r taliadau hynny, yn ddarostyngedig i is-baragraff (6).
(4) Mae’r cyfeiriadau yn is-baragraff (3) at gymorth neu wasanaethau a ddarperir, neu daliadau a wneir, cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym yn cynnwys cymorth neu wasanaethau nas darperir ond y mae’n ofynnol, neu y caniateir, iddynt gael eu darparu neu y mae’n bosibl y bydd yn ofynnol, neu y caniateir, iddynt gael eu darparu, neu daliadau nas gwneir ond y mae’n ofynnol, neu y caniateir, iddynt gael eu gwneud neu y mae’n bosibl y bydd yn ofynnol, neu y caniateir, iddynt gael eu gwneud, cyn y dyddiad hwnnw.
(5) Mae’r ddarpariaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (3) yn cynnwys, yn benodol, ddarpariaeth ynghylch—
(a)costau a symiau eraill sy’n daladwy a’u hadennill;
(b)gwasanaethau cyfreithiol sifil (o fewn yr ystyr a roddir i “civil legal services” yn Rhan 1 o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012);
(c)troseddau.
(6) Nid yw is-baragraff (3) yn awdurdodi awdurdod lleol i wneud unrhyw un o’r canlynol ar neu ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym—
(a)creu arwystl o dan adran 22(1) o Ddeddf 1983;
(b)gwneud gorchymyn o dan adran 23(1) o’r Ddeddf honno;
(c)ymrwymo i gytundeb ar daliadau gohiriedig o dan adran 55(1) o Ddeddf 2001.
(7) Pan fo deddfiad yn peidio â chael effaith o dan y Rheoliadau hyn at ddiben y mae awdurdod lleol yn dal tir ar ei gyfer yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, mae’r tir i gael ei drin fel pe bai wedi ei gyfeddu at ba ddibenion bynnag o’r Ddeddf y mae’r awdurdod yn eu dynodi.
(8) Pan fo deddfiad yn peidio â chael effaith o dan y Rheoliadau hyn at ddiben y mae gan awdurdod lleol hawl i ddefnyddio tir ar ei gyfer yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym—
(a)mae’r awdurdod yn parhau i fod â’r hawl honno i ddefnyddio’r tir at ba ddibenion bynnag o’r Ddeddf y mae’r awdurdod yn eu dynodi, ond
(b)nid yw hynny’n effeithio ar yr amgylchiadau (ac eithrio bod y deddfiad yn peidio â chael effaith) y mae’r hawl yn peidio odanynt.
(9) Nid yw’r paragraff hwn yn rhagfarnu adran 16 o Ddeddf Dehongli 1978(1) (arbedion cyffredinol).