Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4)

315

Yn adran 193 (adennill costau rhwng awdurdodau lleol)—

a

yn is-adran (3) ar ôl “awdurdod lleol arall” mewnosoder “neu awdurdod lleol yn Lloegr”;

b

yn is-adran (4) ar ôl “awdurdod lleol arall” mewnosoder “neu awdurdod lleol yn Lloegr”;

c

yn is-adran (6)—

i

yn lle “is-adran (7)” rhodder “is-adran (7) neu (8)”;

ii

ar ôl “o dan adran 164(1) neu (2)” mewnosoder “, neu o dan adran 27(2) o Ddeddf Plant 1989 (cydweithredu rhwng awdurdodau),”;

iii

ar ôl “yr awdurdod lleol” mewnosoder “neu awdurdod lleol yn Lloegr”;

d

ar ôl is-adran (7) mewnosoder—

8

Pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn cydymffurfio ag unrhyw gais o dan adran 27(2) o Ddeddf Plant 1989 (cydweithredu rhwng awdurdodau) gan awdurdod lleol yn Lloegr (“awdurdod B”) mewn perthynas â pherson—

a

ac awdurdod B yw ei awdurdod cyfrifol (o fewn ystyr Rhan 3 o’r Ddeddf honno) at ddibenion adran 23B neu 23C o’r Ddeddf honno, neu

b

y mae awdurdod B yn ei gynghori neu’n ymgyfeillio ag ef neu y mae’n rhoi cynhorthwy iddo yn rhinwedd adran 24(5)(a) o’r Ddeddf honno,

caiff awdurdod A adennill oddi wrth awdurdod B unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 105 i 115 o’r Ddeddf hon mewn cysylltiad â’r person hwnnw.