xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
24. Yn Atodlen 1(1)—LL+C
(a)hepgorer y cofnodion sy’n ymwneud â Deddf Cymorth Gwladol 1948, ac eithrio’r cofnod sy’n ymwneud ag adran 49 o’r Ddeddf honno;
(b)yn y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd a Gwaith Cymdeithasol (Hyfforddi) 1962(2) hepgorer “, and as extended by section 45(9) of the Health Services and Public Health Act 1968 (c. 46)”;
(c)yn y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 hepgorer y cyfeiriad at adran 45;
(d)hepgorer y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(3);
(e)hepgorer y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Plant 1975(4);
(f)hepgorer y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Budd-daliadau Atodol 1976(5);
(g)hepgorer y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983(6);
(h)yn y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986(7)—
(i)yn lle “1 to 4” rhodder “1, 2 and 4”;
(ii)yn lle “, 7 and 8” rhodder “and 7”;
(i)yn y cofnod sy’n ymwneud â Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990(8), hepgorer—
“Section 46 | Preparation of plans for community care services”; |
(j)hepgorer y cyfeiriad at Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000(9);
(k)yn y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Gofal Cymunedol (Rhyddhau Gohiriedig etc.) 2003(10), hepgorer—
“Part 2 | Functions imposed by regulations relating to eligibility for free provision of personal care to persons living at home.”; |
(l)hepgorer y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Gofalwyr (Cyfle Cyfartal) 2004(11);
(m)yng Ngholofn 1 o’r cofnod sy’n ymwneud â Deddf Plant 2004(12) yn lle “, 13 to 16 and 31 to 34” rhodder “and 13 to 16”;
(n)hepgorer y cofnod sy’n ymwneud â Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(13);
(o)hepgorer y cofnod sy’n ymwneud â Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(14);
(p)hepgorer y cofnod sy’n ymwneud â Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010(15);
(q)hepgorer y cofnod sy’n ymwneud â Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010(16);
(r)hepgorer y cofnod sy’n ymwneud â Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010(17).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 24 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 2(1)
Yn Atodlen 1, diwygiwyd y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 gan adran 129 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p. 49) ac Atodlen 16 iddi a chan adran 57 o Ddeddf Ad-drefnu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1973 (p. 32) a pharagraff 131 o Atodlen 4 iddi; mewnosodwyd y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986 (p. 33) gan adran 107 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22) a pharagraff 7 o Atodlen 5 iddi, ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2010/1158; mewnosodwyd y cofnod sy’n ymwneud â Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 (p. 19) gan baragraff 11 o Atodlen 9 i’r Ddeddf honno; mewnosodwyd y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Gofal Cymunedol (Rhyddhau Gohiriedig etc.) 2003 (p. 5) gan adran 13 o’r Ddeddf honno ac fe’i diwygiwyd gan adran 1 o Ddeddf Gofal Personol yn y Cartref 2010 (p. 18); mewnosodwyd y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Plant 2004 (p. 31) gan adran 56 o’r Ddeddf honno ac fe’i diwygiwyd gan adran 195(3)(a) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22).