xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p. 43)

205.  Yn adran 114 (cwynion am wasanaethau cymdeithasol)—

(a)yn is-adran (2) yn lle “under subsection (1)” rhodder “under this section”;

(b)hepgorer is-adrannau (3) a (4);

(c)yn is-adran (5)—

(i)ym mharagraff (a) hepgorer “in the case of regulations under subsection (1),”;

(ii)hepgorer paragraff (b)(1);

(d)yn y penawd ar y diwedd mewnosoder “: England”.

(1)

Amnewidiwyd adran 114(5)(b) gan baragraffau 74 ac 76(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p. 10).