Gorchymyn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 3, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2016
Enwi a dehongli
1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 3, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2016.
(2)
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 6 Ebrill 2016
2.
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau o’r Ddeddf ddod i rym, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, yw 6 Ebrill 2016.
Arbedion a darpariaethau trosiannol
3.
Mae’r Atodlenni (sy’n cynnwys arbedion a darpariaethau trosiannol) yn cael effaith.
4.
ATODLEN 1Arbedion a darpariaeth drosiannol ac eithrio mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya
Dehongli
1.
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw, mewn perthynas â pherson, y dyddiad y mae’r Ddeddf yn gymwys i’r person hwnnw yn rhinwedd paragraff 2.
Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â phersonau sy’n cael gwasanaethau
2.
(1)
Er gwaethaf cychwyn darpariaethau’r Ddeddf gan erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn, nid yw’r Ddeddf yn gymwys yn achos person y mae, yn union cyn i ddarpariaethau’r Ddeddf ddod i rym—
(a)
cymorth neu wasanaethau yn cael eu darparu iddo neu mewn perthynas ag ef,
(b)
taliadau tuag at gost cymorth neu wasanaethau yn cael eu gwneud iddo neu mewn perthynas ag ef.
(2)
At ddibenion y paragraff hwn, mae darparu cymorth neu wasanaethau yn cynnwys darparu cynhorthwy o dan adran 17(6) o Ddeddf Plant 1989.
(3)
Ond bydd y Ddeddf yn gymwys mewn cysylltiad ag achos y person hwnnw o’r adeg pan fo’r awdurdod lleol wedi cwblhau adolygiad o achos y person hwnnw yn unol ag is-baragraff (3) neu (4).
(4)
Rhaid i awdurdod lleol sy’n darparu cymorth neu wasanaethau neu sy’n gwneud taliadau i oedolyn y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo gwblhau adolygiad o achos yr oedolyn cyn 1 Ebrill 2017.
(5)
Rhaid i awdurdod lleol sy’n darparu cymorth neu wasanaethau neu sy’n gwneud taliadau i blentyn y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo gwblhau adolygiad o achos y plentyn cyn 1 Hydref 2016.
(6)
Os yw awdurdod lleol yn methu â chydymffurfio ag is-baragraff (3), mae’r Ddeddf yn gymwys yn achos yr oedolyn hwnnw o 1 Ebrill 2017 ymlaen.
(7)
Os yw awdurdod lleol yn methu â chydymffurfio ag is-baragraff (4), mae’r Ddeddf yn gymwys yn achos y plentyn hwnnw o 1 Hydref 2016 ymlaen.
(8)
Mewn cysylltiad â pherson y mae is-baragraff (5) neu (6) yn gymwys iddo, mae’r person i gael ei drin fel—
(a)
un y mae arno anghenion am ofal a chymorth neu gymorth sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra o dan adran 32(4) o’r Ddeddf neu y mae’r awdurdod lleol fel arall o dan ddyletswydd i’w diwallu yn dilyn penderfyniad o dan adran 32(1)(b);
(b)
un sydd â’r hawl i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu o dan y Ddeddf; ac
(c)
un sydd wedi cydymffurfio ag unrhyw ofynion yn y Ddeddf neu odani i alluogi’r person i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu,
hyd nes bod yr awdurdod lleol wedi cwblhau adolygiad yn achos y person hwnnw.
(9)
Mae awdurdod lleol wedi cwblhau adolygiad yn achos person—
(a)
pan ddaw i’r casgliad nad oes ar y person anghenion am ofal a chymorth neu am gymorth (yn ôl y digwydd) yn unol â’r Ddeddf;
(b)
ar ôl dod i’r casgliad bod ar y person anghenion o’r fath a’i fod yn mynd i ddiwallu rhai neu bob un o’r anghenion hynny, pan yw’n dechrau gwneud hynny; neu
(c)
pan ddaw i’r casgliad, ar ôl dod i’r casgliad bod ar y person anghenion o’r fath, nad yw’n mynd i ddiwallu unrhyw un o’r anghenion hynny (pa un ai oherwydd nad yw’r anghenion hynny yn bodloni’r meini prawf cymhwystra neu am ryw reswm arall).
Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â chofrestrau o bobl â nam ar eu golwg
3.
Mae oedolyn sydd wedi ei gofrestru fel un sy’n ddall neu sy’n rhannol ddall mewn cofrestr a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru neu ar ei ran o dan adran 29 o Ddeddf 1948 (gwasanaethau lles) yn union cyn i ddarpariaethau’r Ddeddf ddod i rym i gael ei drin ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl hynny fel, yn eu trefn, berson sydd â nam difrifol ar ei olwg neu berson sydd â nam ar ei olwg yn y gofrestr a gynhelir gan yr awdurdod lleol hwnnw neu ar ei ran o dan adran 18 o’r Ddeddf (cofrestrau o bobl â nam ar eu golwg, pobl â nam ar eu clyw a phobl anabl eraill).
Addasiadau trosiannol mewn cysylltiad â thaliadau gohiriedig
4.
Pan fo cytundeb ar daliad gohiriedig o dan adran 55 o Ddeddf 2001 (pŵer i awdurdodau lleol i gymryd pridiannau ar dir yn lle cyfraniadau) mewn grym mewn cysylltiad â pherson nad yw’r Ddeddf yn gymwys iddo yn rhinwedd paragraff 2, mae’r cytundeb ar daliad gohiriedig o dan adran 55 o Ddeddf 2001 i barhau i fod yn gymwys ar y telerau a’r amodau a oedd yn ymwneud ag ef yn union cyn i’r Ddeddf ddod i rym, ac eithrio o’r dyddiad perthnasol mewn perthynas â’r person o dan sylw, rhaid darllen cyfeiriadau yn y cytundeb hwnnw at—
(a)
llety a ddarperir o dan Ran 3 o Ddeddf 1948 fel rhai sy’n cynnwys llety a ddarperir gan awdurdod lleol o dan adran 35 neu 36 (dyletswydd neu bŵer i ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn) o’r Ddeddf (gan gynnwys unrhyw beth a ddarperir mewn cysylltiad â’r llety hwnnw), a
(b)
cyfraniadau perthnasol fel rhai sy’n cynnwys y swm sy’n ddyledus i’r awdurdod lleol gan y person o dan adran 59 o’r Ddeddf neu, yn ôl y digwydd, yn unol â rheoliadau o dan adran 57(2) o’r Ddeddf.
Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â phenodi cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol
5.
(1)
Mae cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol sydd wedi cael ei benodi gan awdurdod lleol o dan adran 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 ac sydd yn y swydd yn union cyn i’r Ddeddf ddod i rym i gael ei drin fel pe bai wedi ei benodi o dan adran 144(1) o’r Ddeddf.
(2)
Nid yw adran 144(2) o’r Ddeddf yn gymwys i benodiad y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo.
Darpariaeth drosiannol sy’n ymwneud â phreswylfa arferol person
6.
Mae unrhyw oedolyn sydd, yn union cyn y dyddiad perthnasol mewn perthynas â’r oedolyn hwnnw, yn cael ei ystyried fel pe bai’n preswylio fel arfer mewn ardal awdurdod lleol yn rhinwedd adran 24(5) neu (6) o Ddeddf 1948 (awdurdod sy’n atebol am ddarparu llety) i gael ei drin, ar y dyddiad hwnnw, fel pe bai’n preswylio fel arfer yn yr ardal honno at ddibenion y Ddeddf.
ATODLEN 2Arbedion a darpariaethau trosiannol mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya
Dehongli
1.
(1)
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “diwrnod perthnasol” (“relevant day”) yw 6 Ebrill 2016;
ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2015;
ystyr “rhiant maeth awdurdod lleol” yw rhiant maeth awdurdod lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local authority foster parent” yn adran 105 o Ddeddf 1989.
(2)
Mae i gyfeiriadau at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol o dan Ran 3 o Ddeddf 1989 ac Atodlen 2 iddi yr un ystyr ag sydd iddynt yn rhinwedd adran 22 o Ddeddf 1989.
(3)
Mae i gyfeiriadau at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol o dan Ran 6 o’r Ddeddf yr un ystyr ag sydd iddynt yn adran 74 o’r Ddeddf.
(4)
Mae i gyfeiriadau at blentyn sydd mewn gofal yr un ystyr ag sydd iddynt yn y diffiniad o “care order” yn adran 105 o Ddeddf 1989.
Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â phlant sydd yng ngofal awdurdod lleol o dan adran 31 o Ddeddf 1989
2.
(1)
Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo plentyn yng ngofal awdurdod lleol yn rhinwedd gorchymyn o dan adran 31 o Ddeddf 1989.
(2)
Pan oedd awdurdod lleol yn union cyn y diwrnod perthnasol wedi gwneud trefniadau, yn unol â Rhan 3 o Ddeddf 1989 ac Atodlen 2 iddi, i’r plentyn fyw—
(a)
gyda pherson sy’n rhiant i’r plentyn,
(b)
gyda pherson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn,
(c)
gyda rhiant maeth awdurdod lleol,
(d)
mewn cartref plant,
(e)
mewn llety diogel o fewn ystyr “secure accommodation” yn adran 25 o Ddeddf 1989, neu
(f)
mewn unrhyw lety arall a drefnir gan yr awdurdod lleol nad yw’n dod o fewn y disgrifiad ym mharagraffau (a) i (e),
ar y diwrnod hwnnw ac ar ôl hynny mae Rhan 6 o’r Ddeddf yn gymwys fel pe bai’r trefniadau wedi eu gwneud yn unol â’r Rhan honno.
Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â phlant sy’n cael llety o dan adran 20 o Ddeddf 1989
3.
(1)
Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo plentyn yn union cyn y diwrnod perthnasol yn derbyn gofal gan awdurdod lleol ac yn cael llety gan yr awdurdod hwnnw o dan adran 20 o Ddeddf 1989.
(2)
Bydd plentyn y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo yn cael ei drin, ar y diwrnod perthnasol ac ar ôl hynny, at ddibenion y Ddeddf fel plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol o dan Ran 6 o’r Ddeddf ac sy’n cael llety gan yr awdurdod hwnnw o dan adran 76 o’r Ddeddf (ond bydd yn peidio â chael ei drin felly ar ôl iddo beidio â chael llety o dan adran 76).
(3)
Pan oedd awdurdod lleol yn union cyn y diwrnod perthnasol wedi gwneud trefniadau i blentyn y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo fyw—
(a)
gyda pherson sy’n rhiant i’r plentyn,
(b)
gyda pherson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn,
(c)
gyda rhiant maeth awdurdod lleol,
(d)
mewn cartref plant,
(e)
mewn llety diogel o fewn ystyr “secure accommodation” yn adran 25 o Ddeddf 1989, neu
(f)
mewn unrhyw lety arall a drefnir gan yr awdurdod lleol nad yw’n dod o fewn y disgrifiad ym mharagraffau (a) i (e),
ar y diwrnod hwnnw ac ar ôl hynny mae Rhan 6 o’r Ddeddf yn gymwys fel pe bai’r trefniadau hynny wedi eu gwneud yn unol â’r Rhan honno.
Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal
4.
Wrth gyfrifo, at ddibenion adran 104(2) o’r Ddeddf, y cyfnod y mae plentyn wedi bod yn derbyn gofal gan awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr, mae unrhyw ran o’r cyfnod hwnnw sy’n bodloni’r amodau a bennir yn y diffiniad o “person ifanc categori 1” yn adran 104(2) o’r Ddeddf sy’n digwydd cyn y diwrnod perthnasol i gael ei chynnwys.
Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â phlant y mae adran 24(1B) o Ddeddf 1989 yn gymwys iddynt
5.
(1)
Wrth gyfrifo, at ddibenion adran 104(2) o’r Ddeddf, y cyfnod y mae plentyn 16 oed neu drosodd wedi bod yn derbyn gofal, wedi ei letya neu ei faethu, mae unrhyw gyfnod sy’n digwydd cyn y diwrnod perthnasol i gael ei gynnwys.
(2)
Yn y paragraff hwn mae i “yn derbyn gofal, wedi ei letya neu ei faethu” yr ystyr a bennir yn adran 104(3) o’r Ddeddf.
Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â seibiannau byr
6.
(1)
Ar y diwrnod perthnasol ac ar ôl hynny wrth gyfrifo’r cyfnod y mae plentyn wedi ei leoli gan awdurdod lleol mewn llety sy’n gyfystyr â seibiant byr, mae unrhyw gyfnod, yn y 12 mis yn union cyn y diwrnod perthnasol, y mae’r plentyn wedi ei dreulio mewn trefniant sy’n gyfystyr â lleoliad tymor byr i gael ei gyfrif.
(2)
Yn y paragraff hwn—
Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â phenderfyniadau i wrthod cyswllt â phlentyn mewn gofal
7.
Bydd unrhyw benderfyniad a wneir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 22(3)(a) o Ddeddf 1989 i wrthod cyswllt â phlentyn sydd yng ngofal yr awdurdod lleol, y byddai fel arall yn ofynnol iddo ei ganiatáu yn unol ag adran 34(1) o Ddeddf 1989, ar y diwrnod perthnasol ac ar ôl hynny yn cael ei drin fe pe bai’r penderfyniad wedi ei wneud yn unol ag adran 78(1)(a) o’r Ddeddf.
Darpariaeth drosiannol mewn perthynas ag adolygu achosion
8.
(1)
Pan fo plentyn, yn union cyn y diwrnod perthnasol—
(a)
yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, neu
(b)
wedi ei leoli gan awdurdod lleol mewn lleoliad tymor byr, ac
(c)
(2)
Pan fo plentyn yn union cyn y diwrnod perthnasol yn derbyn gofal gan awdurdod lleol a bod adolygiad o’i achos wedi cael ei gynnal cyn y diwrnod hwnnw ac nad oes adolygiad pellach i fod i gael ei gyflawni yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 26 o Ddeddf 1989 tan ar ôl y diwrnod perthnasol, rhaid cynnal yr adolygiad nesaf o’r achos—
(a)
pan oedd yr adolygiad yn adolygiad cyntaf, o fewn 3 mis i ddyddiad yr adolygiad hwnnw; neu
(b)
pan oedd yr adolygiad diwethaf yn ail adolygiad neu’n adolygiad dilynol, 6 mis ar ôl dyddiad yr adolygiad hwnnw; ac
yn y naill achos neu’r llall rhaid cynnal adolygiadau dilynol yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 102 o’r Ddeddf.
(3)
Pan fo plentyn yn union cyn y diwrnod perthnasol wedi ei leoli mewn lleoliad tymor byr a bod adolygiad o achos y plentyn wedi cael ei gynnal cyn y diwrnod hwnnw ac nad oes adolygiad pellach i fod i gael ei gyflawni yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 26 o Ddeddf 1989 tan ar ôl y diwrnod perthnasol, rhaid cynnal yr adolygiad nesaf o achos y plentyn—
(a)
pan oedd yr adolygiad yn adolygiad cyntaf, o fewn 6 mis i ddyddiad yr adolygiad hwnnw; neu
(b)
pan oedd yr adolygiad diwethaf yn ail adolygiad neu’n adolygiad dilynol, 6 mis ar ôl dyddiad yr adolygiad hwnnw; ac
yn y naill achos neu’r llall rhaid cynnal adolygiadau dilynol yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 102 o’r Ddeddf.
Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â swyddogion adolygu annibynnol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal
9.
Darpariaeth drosiannol mewn perthynas ag ymwelwyr annibynnol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal
10.
Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â hawlogaeth ar gyfer plant a fu gynt yn derbyn gofal
11.
(1)
Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson y mae ganddo hawlogaeth yn union cyn y diwrnod perthnasol i gael cyngor, cynhorthwy a chymorth oddi wrth awdurdod lleol o dan Ran 3 o Ddeddf 1989 ac Atodlen 2 iddi yn rhinwedd bod yn berson a fu, ond nid yw bellach, yn blentyn a fu’n derbyn gofal.
(2)
Ar y diwrnod perthnasol ac ar ôl hynny mae gan berson y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo hawlogaeth i gael cyngor a chymorth arall sy’n briodol i’w amgylchiadau yn unol â’r ddarpariaeth a wneir yn adrannau 103 i 118 o’r Ddeddf.
Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â threfniadau byw pan fydda i’n barod
12.
(1)
Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo gan gyn-blentyn perthnasol yn union cyn y diwrnod perthnasol drefniant byw pan fydda i’n barod a wneir yn unol â Rhan 3 o Ddeddf 1989 ac Atodlen 2 iddi.
(2)
Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys bydd y trefniant byw pan fydda i’n barod yn cael ei ystyried ar y diwrnod perthnasol ac ar ôl hynny yn drefniant byw ôl-18 a wneir mewn perthynas â pherson ifanc categori 3 yn unol â Rhan 6 o’r Ddeddf.
(3)
Yn y paragraff hwn—
mae i “cyn-blentyn perthnasol” yr ystyr a roddir i “former relevant child” yn adran 23C(1) o Ddeddf 1989;
mae i “cyn-riant maeth” a “trefniant byw ôl-18” yr ystyron a roddir yn adran 108 o’r Ddeddf;
ystyr “person ifanc categori 3” (“category 3 young person”) yw person ifanc categori 3 o fewn ystyr adran 104 o’r Ddeddf;
ystyr “trefniant byw pan fydda i’n barod” (“when I’m ready living arrangement”) yw trefniant byw a therfyn amser iddo a hwylusir gan awdurdod lleol pan fo cyn-blentyn perthnasol yn parhau i fyw gyda ei gyn-riant maeth ar ôl i’r cyn-blentyn perthnasol beidio â derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.
Arbediad a darpariaeth drosiannol mewn perthynas â gorchmynion ac achosion o dan Ran 3 o Ddeddf 1989 ac Atodlen 2 iddi
13.
(1)
Nid yw cychwyn Rhan 6 o’r Ddeddf ac Atodlen 1 iddi a’r ddarpariaeth a wneir gan reoliadau 57 a 107 o Reoliadau 2015 yn effeithio ar—
(a)
unrhyw weithred a wneir, unrhyw hysbysiad a anfonir, unrhyw gais a wneir, neu unrhyw benderfyniad a wneir;
(b)
unrhyw ofynion neu gyfyngiadau o ran amser;
(c)
unrhyw achosion cyfreithiol sydd wedi cychwyn; neu
(d)
unrhyw orchymyn a wneir gan lys,
o dan unrhyw ddarpariaeth yn Rhan 3 o Ddeddf 1989 ac Atodlen 2 iddi neu mewn perthynas ag unrhyw ddarpariaeth o’r fath.
(2)
At ddibenion y paragraff hwn mae unrhyw gyfeiriad at orchymyn gan y llys i gael ei ddehongli fel pe bai’n cynnwys gorchymyn a wneir ar ôl y diwrnod perthnasol mewn achosion a oedd yn yr arfaeth cyn y diwrnod hwnnw.
(3)
Pan fo person wedi apelio i lys o dan achosion yn Rhan 3 o Ddeddf 1989 neu Atodlen 2 iddi neu mewn perthynas ag achosion o’r fath nad ydynt wedi eu penderfynu’n derfynol yn union cyn y diwrnod perthnasol, er gwaethaf cychwyn Rhan 6 o’r Ddeddf ac Atodlen 1 iddi a’r ddarpariaeth a wneir gan reoliadau 57 a 107 o Reoliadau 2015 mae’r apêl i gael ei phenderfynu yn unol â Rhan 3 o Ddeddf 1989 ac Atodlen 2 iddi a chaniateir i unrhyw rwymedïau neu gosbau gael eu gorfodi neu eu gosod mewn perthynas â gweithredoedd a wneir o dan y darpariaethau hynny, neu mewn perthynas â hwy, neu yn groes iddynt.
Dyma’r trydydd Gorchymyn Cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 yn dwyn i rym ddarpariaethau’r Ddeddf, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, ar 6 Ebrill 2016.
Mae erthygl 3 yn cyflwyno’r Atodlenni, sy’n gwneud arbedion a darpariaethau trosiannol.
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf hon wedi eu dwyn i rym drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
|---|---|---|
Adran 132 | 21 Hydref 2015 | |
Adran 133 | 21 Hydref 2015 | |
Adran 170 | 1 Tachwedd 2014 | |
Adran 179 | 1 Tachwedd 2014 | |
Adran 180 | 1 Tachwedd 2014 | |
Atodlen 3 | 1 Tachwedd 2014 |
Gweler hefyd adran 199(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 2 Mai 2014 (y diwrnod ar ôl dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).