2016 Rhif 409 (Cy. 127)
Y Gymraeg

Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Darpariaethau Canlyniadol) 2016

Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 154 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 20111 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn briodol gwneud y Gorchymyn hwn mewn cysylltiad â darpariaethau Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, neu er mwyn rhoi effaith lawn iddynt.

Gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adran 150(2)(k) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.