Offerynnau Statudol Cymru

>2016 Rhif 396 (Cy. 123)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Addysg (Cyrff sy’n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2016

Gwnaed

>15 Mawrth 2016

>Yn dod i rym

>18 Mawrth 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 216(1) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

>Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1>Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cyrff sy’n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2016 a daw i rym ar 18 Mawrth 2016.

(2>Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

>Cyrff sy’n cael eu cydnabod

2.  >Mae’r cyrff a bennir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn cael eu dynodi’n gyrff y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn gyrff sy’n cael eu cydnabod.

>Dirymu

3.  Mae Gorchymyn Addysg (Cyrff sy’n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2012(3) wedi ei ddirymu.

>Huw Lewis

>Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

>15 Mawrth 2016

>Erthygl 2

>YR ATODLEN

>Ysgolion, Colegau a Sefydliadau Prifysgol Llundain y mae’r Brifysgol wedi caniatáu iddynt ddyfarnu graddau Prifysgol Llundain

>Sefydliadau y caniateir iddynt ddyfarnu graddau sylfaen yn unig

>NODYN ESBONIADOL

>(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

>Mae’r Gorchymyn hwn yn rhestru’r holl gyrff y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn gyrff sy’n cael eu cydnabod o fewn ystyr adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988. Mae cyrff o’r fath naill ai:

(a)>yn brifysgolion, yn golegau neu’n gyrff a awdurdodir gan Siarter Frenhinol neu gan Ddeddf Seneddol neu oddi tani i ddyfarnu graddau; neu

(b)>yn gyrff a ganiateir am y tro gan unrhyw gorff sy’n dod o fewn paragraff (a) i weithredu ar ei ran wrth ddyfarnu graddau.

>Mae’r Gorchymyn yn diweddaru ac yn disodli’r rhestr o gyrff sydd wedi ei chynnwys yng Ngorchymyn Addysg (Cyrff sy’n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2012 (“Gorchymyn 2012”). Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn 2012. Mae nifer o gyrff wedi eu hepgor o’r rhestr gan nad oes ganddynt bellach bwerau i ddyfarnu graddau neu am eu bod wedi uno â chyrff eraill. Mae nifer o gyrff newydd wedi eu mewnosod gan ei bod yn ymddangos i Weinidogion Cymru fod y cyrff hyn bellach yn dod o fewn naill ai paragraff (a) neu (b) uchod. Mae nifer o fân ddiwygiadau wedi eu gwneud hefyd i gymryd i ystyriaeth y newidiadau i enwau a wnaed ers Gorchymyn 2012.

>Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(2)

Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a pharagraff 30(1) a (2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(4)

Mae Birkbeck College yn un o golegau cyfansoddol Prifysgol Llundain ac mae ganddo hefyd ei bwerau dyfarnu graddau ei hun.

(5)

Mae Goldsmiths, University of London yn un o golegau cyfansoddol Prifysgol Llundain ac mae ganddo hefyd ei bwerau dyfarnu graddau ei hun.

(6)

Mae Heythrop College yn un o golegau cyfansoddol Prifysgol Llundain ac mae ganddo hefyd ei bwerau dyfarnu graddau ei hun.

(7)

Mae King’s College London yn un o golegau cyfansoddol Prifysgol Llundain ac mae ganddo hefyd ei bwerau dyfarnu graddau ei hun.

(8)

Mae London Business School yn un o golegau cyfansoddol Prifysgol Llundain ac mae ganddo hefyd ei bwerau dyfarnu graddau ei hun.

(9)

Mae London School of Economics and Political Science yn un o golegau cyfansoddol Prifysgol Llundain ac mae ganddo hefyd ei bwerau dyfarnu graddau ei hun.

(10)

Mae London School of Hygiene and Tropical Medicine yn un o golegau cyfansoddol Prifysgol Llundain ac mae ganddo hefyd ei bwerau dyfarnu graddau ei hun.

(11)

Mae Queen Mary, University of London yn un o golegau cyfansoddol Prifysgol Llundain ac mae ganddo hefyd ei bwerau dyfarnu graddau ei hun.

(12)

Mae Royal Academy of Music yn un o golegau cyfansoddol Prifysgol Llundain ac mae ganddo hefyd ei bwerau dyfarnu graddau ei hun.

(13)

Mae Royal Central School of Speech and Drama yn un o golegau cyfansoddol Prifysgol Llundain ac mae ganddo hefyd ei bwerau dyfarnu graddau ei hun.

(14)

Mae Royal Holloway, University of London yn un o golegau cyfansoddol Prifysgol Llundain ac mae ganddo hefyd ei bwerau dyfarnu graddau ei hun.

(15)

Mae The Royal Veterinary College yn un o golegau cyfansoddol Prifysgol Llundain ac mae ganddo hefyd ei bwerau dyfarnu graddau ei hun.

(16)

Mae School of Oriental and African Studies yn un o golegau cyfansoddol Prifysgol Llundain ac mae ganddo hefyd ei bwerau dyfarnu graddau ei hun.

(17)

Mae St George’s, University of London yn un o golegau cyfansoddol Prifysgol Llundain ac mae ganddo hefyd ei bwerau dyfarnu graddau ei hun.

(18)

Mae University College London yn un o golegau cyfansoddol Prifysgol Llundain ac mae ganddo hefyd ei bwerau dyfarnu graddau ei hun.