Enwi, cymhwyso a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2016.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

3

Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i adeilad ynni a eithrir ac mae i “adeilad ynni a eithrir” yr un ystyr ag a roddir i “excepted energy building” yn yr Atodlen i Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 20096.

4

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Ebrill 2016.