xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010 (“Rheoliadau 2010”). Maent yn trosi Erthygl 8 o Gyfarwyddeb 2014/61/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 15 Mai 2014 ar fesurau i leihau’r gost o osod rhwydweithiau cyfathrebu electronig cyflym(1).
Mae rheoliad 2(4) yn mewnosod Rhan 9A newydd yn Rheoliadau 2010, sy’n darparu ar gyfer cydymffurfio â Rhan R newydd (seilwaith ffisegol ar gyfer rhwydweithiau cyfathrebu electronig cyflym) o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hynny. Mae rheoliad 2(5) yn mewnosod y Rhan R newydd, sy’n ei gwneud yn ofynnol gosod seilwaith ffisegol, ym mhob adeilad newydd ac adeiladau sy’n ddarostyngedig i waith adnewyddu sylweddol, hyd at bwynt lle y gellir cysylltu â rhwydweithiau cyfathrebu electronig cyflym. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol gosod pwynt mynediad i’r rhwydwaith hwnnw mewn adeiladau aml annedd.
Mewnosodir y rheoliadau 44A a 44B newydd yn Rheoliadau 2010 gan reoliad 2(4). Mae’r rheoliad 44A newydd yn cymhwyso Rhan R i gategorïau o adeiladau na fyddant fel arall wedi eu cynnwys yn Rheoliadau 2010. Mae’r rheoliad 44B newydd yn nodi’r esemptiadau o ofynion Rhan R.
Mae rheoliad 2 yn diwygio ymhellach Reoliadau 2010. Mae rheoliad 2(2) yn darparu bod y Rhan R newydd yn gymwys i adeiladau a fyddai fel arall yn esempt gan eu bod o fewn dosbarth 1 (adeiladau a reolir o dan ddeddfwriaeth arall) o Atodlen 2 i Reoliadau 2010. Mae rheoliad 2(3) yn eithrio’r Rhan R newydd o bŵer yr awdurdod lleol o dan adran 8(1) o Ddeddf Adeiladu 1984 a rheoliad 11 o Reoliadau 2010 i hepgor neu lacio gofynion yn Rheoliadau 2010.
Mae rheoliad 3 yn cynnwys darpariaeth drosiannol.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar y wefan yn https://www.wales.gov.uk .
OJ L155, 23 Mai 2014, t. 1.