xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru
Gwnaed
10 Mawrth 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
15 Mawrth 2016
Yn dod i rym
8 Ebrill 2016
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â dylunio a chodi adeiladau, ac mewn perthynas â gwasanaethau, ffitiadau a chyfarpar a ddarperir yn yr adeiladau hynny neu mewn cysylltiad â hwy.
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a chan adrannau 1, 3, 8(6) a 34 o Ddeddf Adeiladu 1984 a pharagraffau 7, 8 a 10 o Atodlen 1 iddi(3), sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(4), ar ôl ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu a’r cyrff eraill hynny yr ymddengys iddynt hwy sy’n cynrychioli’r buddiannau o dan sylw yn unol ag adran 14(7) o Ddeddf Adeiladu 1984(5), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1972 p. 68; diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.
1984 p. 55. Diwygiwyd adran 1 gan adran 1 o Ddeddf Adeiladau Cynaliadwy a Diogel 2004 (p. 22) (“Deddf 2004”); diwygiwyd paragraff 7 o Atodlen 1 gan adran 3 o Ddeddf 2004 a chan adran 11 o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd ac Ynni Cynaliadwy 2006 (p. 19); diwygiwyd paragraff 8 o Atodlen 1 gan adran 3 o Ddeddf 2004 a chan adran 40 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p. 29).
Cafodd y swyddogaethau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1, 3 a 34 o Ddeddf Adeiladu 1984 a pharagraffau 7, 8 a 10 o Atodlen 1 iddi, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009 (O.S. 2009/3019).
1984 p. 55. Mewnosodwyd is-adran (7) gan erthygl 1(2) o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009 (O.S. 2009/3019).