2016 Rhif 361 (Cy. 113)

Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru

Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2016

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â dylunio a chodi adeiladau, ac mewn perthynas â gwasanaethau, ffitiadau a chyfarpar a ddarperir yn yr adeiladau hynny neu mewn cysylltiad â hwy.

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a chan adrannau 1, 3, 8(6) a 34 o Ddeddf Adeiladu 1984 a pharagraffau 7, 8 a 10 o Atodlen 1 iddi3, sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy4, ar ôl ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu a’r cyrff eraill hynny yr ymddengys iddynt hwy sy’n cynrychioli’r buddiannau o dan sylw yn unol ag adran 14(7) o Ddeddf Adeiladu 19845, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.