NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, a wnaed o dan adrannau 92 a 219(2) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 (p. 57) ac o dan adran 62 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (p. 13), yn ei gwneud yn ofynnol i berson sydd ag olew dan ei ofal neu ei reolaeth mewn achosion penodol penodedig i gydymffurfio â gofynion penodol o ran y modd y mae’r olew yn cael ei storio a’i drin. Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn disodli’r ddarpariaeth bresennol a wnaed mewn perthynas ag olew tanwydd amaethyddol gan Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1493).

Mae rheoliad 1 yn gwneud darpariaeth (ymhlith pethau eraill) ynghylch cychwyn. Daw’r Rheoliadau i rym ar 15 Mawrth 2016, ac eithrio achosion pan fo cynhwysydd sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio ar y dyddiad hwnnw. Yn yr achosion hynny pennir dyddiadau hwyrach yn rheoliad 1.

Mae rheoliad 2 yn diffinio termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau ac mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch cwmpas y Rheoliadau.

Mae rheoliad 4 yn nodi gofynion mewn perthynas â chynwysyddion storio olew, ac mae rheoliad 5 yn nodi gofynion mewn perthynas â systemau atal eilaidd.

Mae rheoliad 6 yn nodi gofynion mewn perthynas â thanciau sefydlog ac mae rheoliad 7 yn nodi gofynion mewn perthynas â phibellau tanddaearol sy’n gysylltiedig â thanciau sefydlog. Mae rheoliad 8 yn nodi gofynion mewn perthynas â bowseri symudol.

Mae rheoliad 9 yn creu trosedd, sef methu â chydymffurfio ag unrhyw ofynion yn rheoliadau 4 i 8, ac mae rheoliad 10 yn caniatáu i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru, sef y rheoleiddiwr, osod sancsiynau sifil mewn perthynas â’r drosedd honno.

Mae rheoliad 11 yn darparu y caiff Adnoddau Naturiol Cymru orfodi’r Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 12 yn diwygio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010 drwy ddileu’r gofynion o ran olew tanwydd amaethyddol o’r Rheoliadau hynny. Mae’r Rheoliadau hynny wedi eu hailenwi yn unol â hynny (gweler rheoliad 12(2)).

Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd am y Rheoliadau hyn ar ffurf ddrafft fel safon dechnegol, yn unol â Chyfarwyddeb 98/34/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif l204, 21.7.98, t. 37) sy’n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau technegol a rheoliadau, fel y’i diwygiwyd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.