- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Adnoddau Dŵr, Cymru
Gwnaed
14 Mawrth 2016
Yn dod i rym
15 Mawrth 2016
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 92 a 219(2) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(1) ac adran 62 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008(2) (“Deddf 2008”).
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, yn unol ag adran 66 o Ddeddf 2008, y bydd Corff Adnoddau Naturiol Cymru (sef y rheoleiddiwr at ddibenion y Rheoliadau hyn) yn gweithredu yn unol â’r egwyddorion y cyfeirir atynt yn adran 5(2) o’r Ddeddf honno wrth arfer pŵer a roddir gan y Rheoliadau hyn.
Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’u cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adran 62 o Ddeddf 2008.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Storio Olew) (Cymru) 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Mawrth 2016.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Mawrth 2020 mewn perthynas ag unrhyw gynhwysydd y mae olew yn cael ei storio ynddo ar 15 Mawrth 2016.
(5) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Mawrth 2018 mewn perthynas ag unrhyw gynhwysydd —
(a)y mae olew yn cael ei storio ynddo ar 15 Mawrth 2016; a
(b)sydd wedi ei leoli—
(i)llai na 10 metr o unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd arfordirol; neu
(ii)llai na 50 metr o ffynnon neu dwll turio.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “cynhwysydd” (“container”) yw tanc sefydlog â chragen sengl neu gragen ddwbl, drwm, bowser symudol neu (hyd yn oed os nad yw wedi ei gysylltu â phibell sefydlog neu bibellwaith sefydlog) cynhwysydd swmp o faint canolig;
ystyr “drwm” (“drum”) yw drwm olew neu gynhwysydd tebyg a ddefnyddir i storio olew;
mae “mangreoedd” (“premises”) yn cynnwys tir ond nid yw’n cynnwys cerbydau na llestrau;
ystyr “olew” (“oil”) yw olew o unrhyw fath ac eithrio bitwmen crai;
ystyr “sugnbibell ceudod bychan” (“small bore suction pipe”) yw sugnbibell y mae diamedr ei phibell yn llai nag wyth o filimedrau;
ystyr “system atal eilaidd” (“secondary containment system”) yw hambwrdd diferion, ardal wedi ei hamgylchynu gan fwnd neu ddalbwll neu unrhyw system arall ar gyfer atal olew nad yw yn ei gynhwysydd mwyach rhag gollwng o’r fan y mae’n cael ei storio;
mae “tanc sefydlog” (“fixed tank”) yn cynnwys cynhwysydd swmp o faint canolig sydd wedi ei gysylltu â phibell sefydlog neu bibellwaith sefydlog.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo olew yn cael ei storio.
(2) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn achos pan fo olew yn cael ei storio mewn unrhyw gynhwysydd—
(a)sydd â chapasiti storio o 200 o litrau neu lai; neu
(b)sydd wedi ei leoli yn gyfan gwbl o dan y ddaear (oni bai bod y cynhwysydd hwnnw wedi ei leoli mewn adeilad).
(3) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn achos pan fo storio olew yn ddarostyngedig i drwydded amgylcheddol o fewn ystyr rheoliad 13(1) o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010(3).
(4) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn achos pan fo olew yn cael ei storio mewn mangreoedd—
(a)a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat os oedd y cynhwysydd y mae’r olew yn cael ei storio ynddo yn cael ei ddefnyddio ar gyfer storio olew ar y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym mewn perthynas â’r cynhwysydd hwnnw (gweler rheoliad 1);
(b)a ddefnyddir fel depo dosbarthu olew; neu
(c)a ddefnyddir ar gyfer puro olew.
4. Rhaid i berson sydd ag olew dan ei ofal neu ei reolaeth sicrhau bod yr olew yn cael ei storio mewn cynhwysydd sydd—
(a)â digon o gryfder a chyfanrwydd strwythurol i sicrhau ei fod yn annhebygol o ymrwygo neu ollwng wrth gael ei ddefnyddio yn y modd arferol;
(b)sydd wedi ei osod heb effeithio’n andwyol ar y cryfder a’r cyfanrwydd strwythurol hwnnw; ac
(c)sydd wedi ei leoli o fewn system atal eilaidd sy’n bodloni’r gofynion a nodir yn rheoliad 5.
5.—(1) Rhaid i berson sydd ag unrhyw olew dan ei ofal neu ei reolaeth sicrhau y cydymffurfir â gofynion y rheoliad hwn.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), rhaid i’r system atal eilaidd a grybwyllir yn rheoliad 4(c) fod â chapasiti nad yw’n llai na 110% o gapasiti storio’r cynhwysydd.
(3) Pan fo’r system atal eilaidd yn cynnwys mwy nag un cynhwysydd rhaid iddo fod â chapasiti nad yw’n llai na—
(a)110% o gapasiti storio’r cynhwysydd mwyaf (neu o un cynhwysydd pan fônt o’r un capasiti); neu
(b)25% o gapasiti storio crynswth y cynwysyddion,
pa un bynnag yw’r mwyaf.
(4) Pan fo unrhyw ddrwm yn cael ei ddefnyddio i storio olew ar y cyd â hambwrdd diferion fel system atal eilaidd, rhaid i’r hambwrdd fod â chapasiti nad yw’n llai na—
(a)25% o gapasiti storio’r drwm; neu
(b)(os defnyddir mwy nag un drwm ar yr un pryd â’r hambwrdd) 25% o gapasiti storio crynswth y drymiau,
pa un bynnag yw’r mwyaf.
(5) Rhaid lleoli’r system atal eilaidd, neu rhaid cymryd camau eraill, er mwyn lleihau unrhyw risg o ddifrod drwy ardrawiad i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol.
(6) Rhaid i sylfaen a waliau’r system atal eilaidd—
(a)fod yn anhydraidd i ddŵr ac olew;
(b)peidio â bod wedi eu treiddio gan unrhyw falf, pibell nac agoriad arall a ddefnyddir i ddraenio’r system.
(7) Os oes unrhyw bibell lenwi neu bibell wagu yn treiddio drwy sylfaen neu unrhyw un neu ragor o waliau’r system atal eilaidd, rhaid i gydiadau’r bibell â’r sylfaen neu’r waliau fod wedi eu selio mewn ffordd sy’n atal olew rhag gollwng o’r system.
(8) Rhaid i unrhyw falf, hidlydd, medrydd tryloyw, pibell awyr neu gyfarpar arall sy’n ategol i’r cynhwysydd (ac eithrio pibell lenwi neu bibell wagu) fod wedi eu lleoli o fewn y system atal eilaidd.
(9) Os nad yw’r man cysylltu i bibell lenwi o fewn y system atal eilaidd, rhaid defnyddio hambwrdd diferion i ddal unrhyw olew sy’n gollwng wrth lenwi’r cynhwysydd ag olew.
6.—(1) Rhaid i berson sydd ag unrhyw olew dan ei ofal neu ei reolaeth sicrhau y cydymffurfir â gofynion y rheoliad hwn.
(2) Pan fo tanc sefydlog yn cael ei ddefnyddio i storio olew rhaid bodloni’r gofynion a nodir ym mharagraffau (3) i (114).
(3) Rhaid i unrhyw fedrydd tryloyw fod wedi ei ategu’n ddigonol a rhaid gosod falf arno sy’n cau’n awtomatig pan nad yw’n cael ei ddefnyddio.
(4) Rhaid i unrhyw bibell lenwi, pibell wagu neu bibell orlif fod wedi ei lleoli, neu rhaid cymryd camau eraill, er mwyn lleihau unrhyw risg o ddifrod gan ardrawiad i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol.
(5) Rhaid i unrhyw bibell a grybwyllir ym mharagraff (3) sydd uwchben y ddaear fod wedi ei hategu’n ddigonol.
(6) Rhaid i unrhyw bibell a grybwyllir ym mharagraff (3) sydd wedi ei gwneud o ddeunyddiau sy’n dueddol o gyrydu fod wedi ei diogelu’n ddigonol rhag cyrydiad.
(7) Rhaid gosod falf wrthseiffno ar unrhyw sugnbibell ceudod bychan.
(8) Rhaid gosod dyfais atal gorlenwi awtomatig ar y tanc os yw’r weithred lenwi yn cael ei rheoli o fan lle nad yw’n rhesymol ymarferol i edrych ar y tanc ac unrhyw bibell awyr.
(9) Pan fo ffitiad sgriwio neu gyplyn sefydlog arall wedi ei osod, rhaid ei gynnal a’i gadw mewn cyflwr da, a rhaid ei ddefnyddio pryd bynnag y bo’r tanc yn cael ei lenwi ag olew.
(10) Mae paragraffau (10) ac (11) yn gymwys pan fo olew o’r tanc yn cael ei drosglwyddo drwy bibell hyblyg sydd wedi ei gosod ynghlwm yn barhaol i’r tanc neu i bwmp trosglwyddo.
(11) Rhaid i’r bibell hyblyg fod â thap neu falf wedi ei gosod ar ei phen trosglwyddo sy’n—
(a)cau’n awtomatig pan nad yw’n cael ei defnyddio; a
(b)rhaid sicrhau nad oes modd gadael y tap neu’r falf ar agor (oni bai bod dyfais diffodd awtomatig wedi ei gosod ar y bibell).
(12) Rhaid i’r bibell hyblyg fod naill ai—
(a)wedi ei hamgáu mewn cabinet diogel sy’n cael ei gau a’i gloi pan nad yw’n cael ei ddefnyddio a rhaid bod ganddo hambwrdd diferion; neu
(b)bod â falf y gellir ei chloi lle y mae’n gadael y cynhwysydd sy’n cael ei chau a’i chloi pan nad yw’n cael ei defnyddio.
(13) Rhaid i unrhyw bwmp—
(a)bod â falf unffordd wedi ei gosod ar ei bibell borthi;
(b)bod wedi ei leoli, neu ei wneud yn ddarostyngedig i fesurau eraill, i leihau unrhyw risg o ddifrod i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol; ac
(c)bod wedi ei ddiogelu’n ddigonol rhag cael ei ddefnyddio heb awdurdod.
(14) Rhaid i unrhyw bibell awyr, tap neu falf barhaol y gellir gollwng olew ohonynt o’r tanc i’r tu allan fodloni’r gofynion a ganlyn—
(a)rhaid iddynt fod wedi eu lleoli o fewn y system atal eilaidd;
(b)rhaid gwneud trefniadau i sicrhau bod unrhyw olew sy’n cael ei ollwng o’r tanc nad yw’n mynd i’r fan y bwriedir iddo fynd yn cael ei ddal o fewn y system; ac
(c)(yn achos tap neu falf), rhaid bod clo wedi ei osod arno neu arni, a rhaid ei gau a’i gloi pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.
7.—(1) Rhaid i berson sydd ag unrhyw olew dan ei ofal neu ei reolaeth sicrhau y cydymffurfir â gofynion y rheoliad hwn.
(2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo pibell a grybwyllir yn rheoliad 6(4) o dan y ddaear.
(3) Ni chaniateir i’r bibell fod ag unrhyw gymalau mecanyddol, oni bai eu bod wedi eu lleoli mewn man lle maent yn hygyrch i’w harchwilio drwy agor agorfa neu gaead.
(4) Rhaid i’r bibell fod wedi ei diogelu’n ddigonol rhag difrod ffisegol.
(5) Rhaid i’r bibell fod â chyfleusterau digonol i ganfod unrhyw ollyngiadau.
(6) Os oes dyfais canfod gollyngiadau wedi ei gosod ar y bibell sy’n cael ei defnyddio’n barhaus i fonitro ar gyfer unrhyw ollyngiadau, rhaid cynnal a chadw’r ddyfais mewn cyflwr sy’n gweithio a rhaid ei phrofi o leiaf unwaith bob pum mlynedd, neu’n amlach os yw hynny’n briodol i’r ddyfais dan sylw, er mwyn sicrhau ei bod yn gweithio’n briodol.
(7) Os nad oes dyfais canfod gollyngiadau wedi ei gosod ar y bibell, rhaid cynnal profion ar unrhyw bibell a ddefnyddir am y tro cyntaf ar y dyddiad neu ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym i ganfod unrhyw ollyngiadau cyn ei defnyddio am y tro cyntaf mewn perthynas â’r tanc y mae’r bibell honno’n gysylltiedig ag ef (gweler rheoliad 1), a rhaid cynnal profion pellach i ganfod unrhyw ollyngiadau o leiaf unwaith bob pum mlynedd yn achos pibellau sydd â chymalau mecanyddol, ac o leiaf unwaith bob deng mlynedd mewn achosion eraill.
(8) Rhaid cynnal profion ar unrhyw bibell—
(a)sydd eisoes yn cael ei defnyddio ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym mewn perthynas â’r tanc y mae’r bibell honno’n gysylltiedig ag ef (gweler rheoliad 1); a
(b)nad oes profion i ganfod gollyngiadau wedi eu cynnal arni yn ystod y pum mlynedd blaenorol,
o fewn un flwyddyn o ‘r dyddiad hwnnw, ac ar ôl hynny o leiaf unwaith bob pum mlynedd os oes ganddi gymalau mecanyddol, neu o leiaf unwaith bob deng mlynedd mewn unrhyw achosion eraill.
(9) Rhaid cynnal profion ar unrhyw bibell sydd â chymalau mecanyddol sydd—
(a)eisoes yn cael ei defnyddio ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym mewn perthynas â’r tanc y mae’r bibell honno’n gysylltiedig ag ef (gweler rheoliad 1); a
(b)y mae profion i ganfod gollyngiadau wedi eu cynnal arni yn ystod y pum mlynedd blaenorol,
o leiaf unwaith bob pum mlynedd ar ôl dyddiad y prawf blaenorol, ac o leiaf unwaith bob deng mlynedd ar ôl dyddiad y prawf blaenorol mewn unrhyw achosion eraill.
8.—(1) Rhaid i berson sydd ag unrhyw olew dan ei ofal neu ei reolaeth sicrhau y cydymffurfir â gofynion y rheoliad hwn.
(2) Os yw bowser symudol yn cael ei ddefnyddio i storio olew, rhaid bodloni’r gofynion a nodir ym mharagraffau (3) i (5).
(3) Rhaid gosod clo ar unrhyw dap neu falf sydd wedi ei osod neu ei gosod ynghlwm yn barhaol i’r bowser y gellir gollwng olew ohono i’r tu allan, a rhaid ei gau a’i gloi pan nad yw’r bowser yn cael ei ddefnyddio.
(4) Pan fo olew yn cael ei drosglwyddo o fowser symudol drwy bibell hyblyg sydd wedi ei gosod ynghlwm yn barhaol i’r bowser—
(a)rhaid bod pwmp neu falf a weithredir â llaw wedi ei osod neu ei gosod ar y bibell ar y pen trosglwyddo, a rhaid i’r pwmp neu’r falf—
(i)cau’n awtomatig pan nad yw’n cael ei ddefnyddio neu ei defnyddio;
(ii)bod â chlo arno neu arni; a
(iii)cael ei gau a’i gloi neu ei chau a’i chloi pan nad yw’n cael ei ddefnyddio neu ei defnyddio;
(b)rhaid gosod falf y gellir ei chloi ar y bibell ar y pen lle y mae’n gadael y bowser symudol, a rhaid cau a chloi’r falf pan nad yw’n cael ei defnyddio.
(5) Rhaid gosod unrhyw fedrydd tryloyw ynghlwm i’r bowser symudol yn ddigonol, rhaid gosod falf neu dap arno, a rhaid ei gau a’i gloi pan nad yw’n cael ei ddefnyddio.
9.—(1) Mae person sydd yn torri rheoliadau 4, 5(1), 6(1), 7(1), neu 8(1) yn euog o drosedd.
(2) Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1) yn agored o gael euogfarn ddiannod neu o gael euogfarn ar dditiad, i ddirwy.
10.—(1) Caiff Corff Adnoddau Naturiol Cymru—
(a)gosod cosb ariannol benodedig;
(b)gosod cosb ariannol amrywiadwy;
(c)gosod gorchymyn adfer;
(d)gosod hysbysiad stop;
(e)derbyn ymgymeriad gorfodi;
mewn perthynas â’r drosedd yn rheoliad 9(1).
(2) Mae i’r termau a ddefnyddir ym mharagraff (1)(a) i (e) yr un ystyron ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008.
(3) Mae darpariaethau Gorchymyn Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Cymru) 2010(4) yn gymwys mewn perthynas â’r sancsiynau a grybwyllir ym mharagraff (1).
11. Caiff Corff Adnoddau Naturiol Cymru orfodi’r Rheoliadau hyn.
12.—(1) Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010(5) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (11).
(2) Yn rheoliad 1(1), yn lle “Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru 2010)” rhodder “Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair a Slyri) (Cymru) 2010”.
(3) Yn rheoliad 2(1) hepgorer y diffiniad o “olew tanwydd” (“fuel oil”).
(4) Hepgorer rheoliad 5.
(5) Yn rheoliad 6(1), yn lle “seilo, system storio slyri na thanc storio tanwydd” rhodder “seilo na system storio slyri”.
(6) Yn rheoliad 6(1)(a), yn lle’r geiriau o “wneud silwair” hyd at ddiwedd yr is-baragraff, rhodder “wneud silwair neu storio slyri”.
(7) Yn rheoliad 6(2), yn lle “seilo, system storio slyri neu danc storio tanwydd” rhodder “seilo neu system storio slyri”.
(8) Yn rheoliad 7(1)—
(a)yn lle “silwair, slyri neu olew tanwydd” rhodder “silwair neu slyri”;
(b)yn lle “seilo, y system storio slyri neu’r tanc storio olew tanwydd” rhodder “seilo neu’r system storio slyri”.
(9) Yn rheoliad 9—
(a)yn lle “silwair, slyri neu olew tanwydd” rhodder “silwair neu slyri”;
(b)yn lle “seilo, system storio slyri neu fan storio tanwydd” rhodder “seilo neu system storio slyri”.
(10) Yn rheoliad 10(1), hepgorer “, 5(1)”.
(11) Hepgorer Atodlen 3.
Vaughan Gething
Y Dirpwy Weinidog Iechyd, ar ran Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
14 Mawrth 2016
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, a wnaed o dan adrannau 92 a 219(2) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 (p. 57) ac o dan adran 62 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (p. 13), yn ei gwneud yn ofynnol i berson sydd ag olew dan ei ofal neu ei reolaeth mewn achosion penodol penodedig i gydymffurfio â gofynion penodol o ran y modd y mae’r olew yn cael ei storio a’i drin. Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Mae’r Rheoliadau hefyd yn disodli’r ddarpariaeth bresennol a wnaed mewn perthynas ag olew tanwydd amaethyddol gan Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1493).
Mae rheoliad 1 yn gwneud darpariaeth (ymhlith pethau eraill) ynghylch cychwyn. Daw’r Rheoliadau i rym ar 15 Mawrth 2016, ac eithrio achosion pan fo cynhwysydd sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio ar y dyddiad hwnnw. Yn yr achosion hynny pennir dyddiadau hwyrach yn rheoliad 1.
Mae rheoliad 2 yn diffinio termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau ac mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch cwmpas y Rheoliadau.
Mae rheoliad 4 yn nodi gofynion mewn perthynas â chynwysyddion storio olew, ac mae rheoliad 5 yn nodi gofynion mewn perthynas â systemau atal eilaidd.
Mae rheoliad 6 yn nodi gofynion mewn perthynas â thanciau sefydlog ac mae rheoliad 7 yn nodi gofynion mewn perthynas â phibellau tanddaearol sy’n gysylltiedig â thanciau sefydlog. Mae rheoliad 8 yn nodi gofynion mewn perthynas â bowseri symudol.
Mae rheoliad 9 yn creu trosedd, sef methu â chydymffurfio ag unrhyw ofynion yn rheoliadau 4 i 8, ac mae rheoliad 10 yn caniatáu i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru, sef y rheoleiddiwr, osod sancsiynau sifil mewn perthynas â’r drosedd honno.
Mae rheoliad 11 yn darparu y caiff Adnoddau Naturiol Cymru orfodi’r Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 12 yn diwygio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010 drwy ddileu’r gofynion o ran olew tanwydd amaethyddol o’r Rheoliadau hynny. Mae’r Rheoliadau hynny wedi eu hailenwi yn unol â hynny (gweler rheoliad 12(2)).
Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd am y Rheoliadau hyn ar ffurf ddrafft fel safon dechnegol, yn unol â Chyfarwyddeb 98/34/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif l204, 21.7.98, t. 37) sy’n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau technegol a rheoliadau, fel y’i diwygiwyd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1991 p. 57 . Diwygiwyd adran 92 gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) gweler adran 120 o’r Ddeddf a pharagraffau 128 a 144 o Atodlen 22 iddi); gan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/675): gweler rheoliad 107 a pharagraffau 8(1) ac 8(5) o Atodlen 26; a chan Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (O.S. 2013/755): gweler paragraff 274 o Atodlen 1. Gwnaed diwygiadau i adran 219(2) nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 2 iddo trosglwyddwyd swyddogaethau o dan adran 92 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â’r rhannau hynny o Gymru sydd y tu allan i ddalgylchoedd afonydd Dyfrdwy, Gwy a Hafren. Mewn perthynas â’r rhannau hynny o Gymru sydd o fewn y dalgylchoedd hynny, mae swyddogaethau o dan adran 92 yn arferadwy gan y Cynulliad ar y cyd â’r Ysgrifennydd Gwladol. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae’r swyddogaethau o dan adrannau 92 a 219 wedi eu breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: