NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1379 (Cy. 122)) (“Gorchymyn 2010”).

Mae’r diwygiadau wedi eu cynnwys yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

Mae paragraff 1 yn cyflwyno diffiniadau o “buches dan gyfyngiadau”, “gwerth achub” a “profion cyn symud”, ac yn diwygio’r diffiniadau o “anifail a amheuir” a “prawf croen”.

Mae paragraff 2 yn gwneud darpariaeth ychwanegol ar gyfer storio carcas yr effeithiwyd arno gan dwbercwlosis neu yr amheuir yr effeithiwyd arno gan dwbercwlosis.

Mae paragraff 3 yn gwneud darpariaeth ychwanegol mewn cysylltiad ag arolygwyr milfeddygol yn cadarnhau presenoldeb clefyd a chymryd rhagofalon rhag lledaenu clefyd.

Mae paragraff 4 yn disodli hysbysiadau gwella milfeddygol â hysbysiadau gofynion milfeddygol yng Ngorchymyn 2010.

Mae paragraff 5 yn cyflwyno erthygl 11A i Orchymyn 2010, sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer hysbysiadau gwella bioddiogelwch.

Mae paragraff 6 yn diwygio Gorchymyn 2010 i wneud darpariaeth ychwanegol ar gyfer profi anifail ar gyfer twbercwlosis.

Mae paragraff 7 yn gwneud darpariaeth ychwanegol mewn cysylltiad â phrofion cyn symud.

Mae paragraff 8 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru gymeradwyo unedau pesgi i gymryd anifeiliaid buchol sydd wedi eu symud heb eu profi neu sy’n dod o fuches dan gyfyngiadau.

Mae paragraffau 9 i 14 yn gwneud diwygiadau pellach i Ran 2 o Orchymyn 2010 mewn cysylltiad â phrofi anifeiliaid buchol a rheoli eu symud.

Mae paragraff 15 yn diwygio erthygl 26 o Orchymyn 2010 i wneud darpariaeth ychwanegol mewn cysylltiad ag iawndal am anifeiliaid buchol a gigyddir oherwydd twbercwlosis.

Mae paragraff 16 yn cyflwyno Atodlen newydd i Orchymyn 2010, gan ddisodli’r Atodlen flaenorol, sy’n gwneud darpariaeth newydd ar gyfer cyfrifo gwerth anifail buchol a gigyddir oherwydd twbercwlosis.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.