NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) 2015 (“y Prif Reoliadau”) a deuant i rym ar yr un pryd ar 6 Ebrill 2016.

Mae’r diwygiadau i reoliadau 1, 2, 9 a 12 o’r Prif Reoliadau yn gwneud newidiadau i sicrhau bod y gofynion a osodir ar awdurdodau lleol Cymreig mewn perthynas â lleoliadau mewn llety diogel yn gymwys pa un a ydynt yn lleoli plant yng Nghymru neu yn Lloegr. Mae’r diwygiadau i reoliad 1 yn diwygio’r diffiniad o “llety diogel” fel bod y geiriau, lle y’u defnyddir, yn cyfeirio at lety yng Nghymru neu yn Lloegr oni nodir i’r gwrthwyneb. Mae’r diwygiadau i reoliadau 2, 9 a 12 yn mewnosod geiriau er mwyn egluro y cyfyngir y cyfeiriadau at “llety diogel” i Gymru yn y rheoliadau hynny.

Effaith y diwygiad i reoliad 7 yw sicrhau na ellir lleoli plentyn sydd wedi ei roi ar remánd i lety awdurdod lleol ac sydd wedi ei leoli mewn llety diogel am gyfnod hwy na 28 o ddiwrnodau heb droi at y llys.

Mae’r diwygiad i reoliad 14 yn dileu’r gwaharddiad ar awdurdodau lleol sy’n gwneud cais i’r llys am awdurdod i leoli plant 16 a 17 oed mewn llety diogel pan fo’r plant 16 a 17 oed wedi eu lletya o dan adran 76 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae’r diwygiad i reoliad 15 wedi ei wneud er mwyn adlewyrchu diwygiad sydd wedi ei wneud i effaith adran 38 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 fel bod y rhwymedigaeth ar swyddog dalfa yn adran 38(6) i symud pobl ifanc sydd wedi eu harestio i lety awdurdod lleol bellach wedi ei hestyn i blant o dan 18 oed. Mae’r diwygiad hwn felly’n cysoni darpariaethau rheoliad 15 o’r Prif Reoliadau yn unol â hynny fel bod y trothwy is yn gymwys i bob un o’r plant hynny.

Mae’r diwygiad i reoliad 16 yn cywiro croesgyfeiriad gwallus.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.