2016 Rhif 312 (Cy. 102)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Plant A Phobl Ifanc, Cymru
Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2016
Gwnaed
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 22(8)(b) ac adran 118(7) o Ddeddf Safonau Gofal 20001, adrannau 87, 119(2) a (7) a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20142, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 196(6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.