(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (O.S. 1995/418) (“y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir”).
Mae’r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir yn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer dosbarthau penodol ar ddatblygiadau.
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhan 3 (newidiadau mewn defnydd) o Atodlen 2 i’r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir er mwyn rhoi hawliau datblygu a ganiateir newydd. Mae’r hawliau datblygu a ganiateir hynny yn caniatáu newid defnydd, fel y gellir defnyddio adeiladau a ddefnyddir fel tai amlfeddiannaeth ar raddfa fechan, a rennir gan dri i chwech o bobl, fel tai annedd wedi hynny.
Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.