Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 (O.S. 1987/764) (“y Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd”).
Mae’r Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd yn pennu dosbarthiadau defnydd adeiladau neu dir arall at ddibenion adran 55(2)(f) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Mae adran 55(2)(f) yn darparu nad datblygiad yw newid defnydd pan fo’r defnydd blaenorol a’r defnydd newydd o fewn yr un dosbarth. Nid oes angen caniatâd cynllunio ar newidiadau defnydd nad ydynt i’w hystyried fel datblygiad.
Mae erthygl 2(2) yn diwygio Dosbarth Defnydd C3 (tai annedd) er mwyn:-
cynnwys diffiniad o “single household” sy’n gymwys i Ddosbarth C3(a) yn unig;
diddymu o gwmpas Dosbarth C3(c) dai amlfeddiannaeth sy’n dod o dan y Dosbarth C4 newydd.
Mae erthygl 2(3) yn cyflwyno Dosbarth Defnydd C4 newydd (tai amlfeddiannaeth) sydd, yn ddarostyngedig i eithriad, yn cynnwys defnyddio tŷ annedd fel tŷ amlfeddiannaeth fel y’i diffinnir yn adran 254 o Ddeddf Tai 2004. Yn fras, mae’r defnydd hwn yn digwydd pan fo llety preswyl o dan denantiaeth wedi ei feddiannu gan 3 i 6 o bobl fel eu hunig neu brif breswylfa, nad ydynt yn perthyn i’w gilydd ac sy’n rhannu un neu ragor o amwynderau sylfaenol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.