2016 Rhif 28 (Cy. 10)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) (Diwygio) (Cymru) 2016

Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 55(2)(f) a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19901 ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy2, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1.

(1)

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) (Diwygio) (Cymru) 2016 a daw i rym ar 25 Chwefror 2016.

(2)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 19872.

(1)

Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 19873 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn Rhan C o’r Atodlen, yn lle Dosbarth C3 rhodder—

“Class C3. Dwellinghouses

Use as a dwellinghouse (whether or not as a sole or main residence) by—

(a)

a single person or by people to be regarded as forming a single household;

(b)

not more than six residents living together as a single household where care is provided for residents; or

(c)

not more than six residents living together as a single household where no care is provided to residents (other than a use within class C4).

Interpretation of Class C3

For the purposes of Class C3(a) “single household” is to be construed in accordance with section 258 of the Housing Act 20044.”

(3)

Yn Rhan C o’r Atodlen, ar ôl Dosbarth C3 mewnosoder—

“Class C4. Houses in multiple occupation

Use of a dwellinghouse by not more than six residents as a house in multiple occupation.

Interpretation of Class C4

For the purposes of Class C4 a “house in multiple occupation” does not include a converted block of flats to which section 257 of the Housing Act 2004 applies but otherwise has the same meaning as in section 254 of the Housing Act 2004.”

Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 (O.S. 1987/764) (“y Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd”).

Mae’r Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd yn pennu dosbarthiadau defnydd adeiladau neu dir arall at ddibenion adran 55(2)(f) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Mae adran 55(2)(f) yn darparu nad datblygiad yw newid defnydd pan fo’r defnydd blaenorol a’r defnydd newydd o fewn yr un dosbarth. Nid oes angen caniatâd cynllunio ar newidiadau defnydd nad ydynt i’w hystyried fel datblygiad.

Mae erthygl 2(2) yn diwygio Dosbarth Defnydd C3 (tai annedd) er mwyn:-

(1)

cynnwys diffiniad o “single household” sy’n gymwys i Ddosbarth C3(a) yn unig;

(2)

diddymu o gwmpas Dosbarth C3(c) dai amlfeddiannaeth sy’n dod o dan y Dosbarth C4 newydd.

Mae erthygl 2(3) yn cyflwyno Dosbarth Defnydd C4 newydd (tai amlfeddiannaeth) sydd, yn ddarostyngedig i eithriad, yn cynnwys defnyddio tŷ annedd fel tŷ amlfeddiannaeth fel y’i diffinnir yn adran 254 o Ddeddf Tai 2004. Yn fras, mae’r defnydd hwn yn digwydd pan fo llety preswyl o dan denantiaeth wedi ei feddiannu gan 3 i 6 o bobl fel eu hunig neu brif breswylfa, nad ydynt yn perthyn i’w gilydd ac sy’n rhannu un neu ragor o amwynderau sylfaenol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.