Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”) yn rhagnodi’r cyrsiau cymhwysol a’r personau cymhwysol at ddibenion Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”), y mae adran 5 ohoni yn nodi bod rhaid i gynlluniau ffioedd a mynediad bennu terfynau ffioedd (neu ddarparu ar gyfer penderfynu ar derfynau ffioedd) mewn perthynas â chyrsiau cymhwysol bob blwyddyn academaidd.
Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio darpariaethau dehongli Rheoliadau 2015 drwy fewnosod dau ddiffiniad newydd.
Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn rhoi rheoliad 3 newydd a rheoliadau newydd 3A a 3B yn lle rheoliad 3 o Reoliadau 2015.
Mae’r rheoliad 3 newydd yn rhagnodi’r disgrifiad o gwrs cymhwysol mewn perthynas â chynllun o dan Ddeddf 2004 (cynllun a gymeradwywyd o ran Cymru o dan adran 34 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 cyn 1 Awst 2015) at ddibenion y cyfnod trosiannol o dan Ddeddf 2015.
Mae rheoliad newydd 3A yn rhagnodi’r disgrifiad o gwrs cymhwysol mewn perthynas â chynllun ffioedd a mynediad o dan Ddeddf 2015 nad yw’n gynllun o dan Ddeddf 2004.
Mae rheoliad newydd 3B yn darparu, at ddibenion rheoliad 3 newydd a rheoliad newydd 3A, ar gyfer pa bryd nad yw cwrs yn gwrs cymhwysol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.