Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 12 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas â’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â chofrestru yn y gofrestr a sefydlir ac a gynhelir gan Gyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”) o dan adran 9 o Ddeddf 2014.

Mae rheoliad 1 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Chwefror 2016 ac eithrio rheoliad 2 sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2016. Mae rheoliad 2 yn darparu bod Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”) wedi eu dirymu. Felly, mae Rheoliadau 2015 wedi eu dirymu a hynny’n effeithiol o 1 Ebrill 2016.

Mae rheoliad 3 yn cynnwys y darpariaethau dehongli.

Mae’r ffioedd sy’n daladwy ar gyfer pob categori cofrestru wedi eu nodi yn rheoliad 4. Mae rheoliad 4 hefyd yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru bennu swm y cymhorthdal a roddir tuag at y ffioedd cofrestru hynny ac yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gyhoeddi swm y cymhorthdal hwnnw ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae rheoliad 5 yn caniatáu i’r Cyngor wneud darpariaeth mewn perthynas â’r ffioedd sy’n daladwy yn unol â’r Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 6 yn darparu bod rhaid i gyflogwr, ar gais y Cyngor, gyflenwi i’r Cyngor yr wybodaeth a nodir yn yr Atodlen pan fo’n cyflogi neu fel arall yn cymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol berson y mae’n ofynnol iddo gael ei gofrestru.

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwr sydd wedi cael ei hysbysu gan y Cyngor ddidynnu ffi gofrestru o gyflog athro neu athrawes ysgol, gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol, athro neu athrawes addysg bellach neu weithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach; ac mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyflogwr ei thalu i’r Cyngor o fewn 14 diwrnod.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyflogwr gyflenwi i’r Cyngor yr wybodaeth yn yr Atodlen mewn cysylltiad â’r person y telir y ffi iddo wrth dalu’r ffi iddo.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Safonau Ymarferwyr a Datblygu Proffesiynol yn yr Adran Addysg a Sgiliau.