NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Hwn yw’r chweched gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”).

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, ar 16 Mawrth 2016, Ran 3 o’r Ddeddf i’r graddau nad yw eisoes mewn grym, sef adrannau 103 a 104 o’r Ddeddf.

Mae adran 101 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol gynnal asesiadau o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio yn ei ardal neu’n cyrchu iddi. Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adran 103, sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol yng Nghymru arfer ei bŵer o dan adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (pŵer awdurdodau i ddarparu safleoedd i gartrefi symudol) i’r graddau y bo’n angenrheidiol i gwrdd â’r anghenion a nodwyd yn asesiad cymeradwy’r awdurdod tai lleol o’r anghenion llety a gynhaliwyd o dan adran 101.

Mae adran 104 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod tai lleol i arfer ei bwerau o dan adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 i’r graddau y bo’n angenrheidiol i gwrdd â’r anghenion a nodwyd yn asesiad cymeradwy’r awdurdod tai lleol, pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod awdurdod tai lleol wedi methu â chydymffurfio â’i ddyletswydd o dan adran 103 o’r Ddeddf. Rhaid i awdurdod tai lleol gydymffurfio â chyfarwyddyd o’r fath a roddir iddo.