Sefydlu’r Panel a’i swyddogaethau3.

(1)

 Ar y dyddiad sefydlu bydd y Panel yn cael ei sefydlu.

(2)

Swyddogaethau’r Panel yw—

(a)

hybu gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth;

(b)

llunio gorchmynion cyflogau amaethyddol ar ffurf ddrafft, ymgynghori ar y gorchmynion hynny a’u cyflwyno i Weinidogion Cymru i’w cymeradwyo; ac

(c)

cynghori Gweinidogion Cymru ar unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â’r sector amaethyddol yng Nghymru sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.