2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “aelod addysg annibynnol” (“independent education member”) yw person sy’n meddu ar brofiad, gwybodaeth neu arbenigedd ym maes addysg;
ystyr “aelod amaethyddiaeth annibynnol” (“independent agriculture member”) yw person sy’n meddu ar brofiad, gwybodaeth neu arbenigedd ym maes amaethyddiaeth;
ystyr “aelodau annibynnol” (“independent members”) yw’r ddau aelod o’r Panel sy’n cynnwys yr aelod amaethyddiaeth annibynnol a’r aelod addysg annibynnol;
ystyr “aelodau cynrychioliadol” (“representative members”) yw’r pedwar aelod o’r Panel a ddetholir gan, ac o blith, aelodau’r sefydliadau a nodir yn erthygl 5(1)(d) i (f);
ystyr “Cod Ymarfer ar Benodiadau Cyhoeddus” (“Public Appointments Code of Practice”) yw’r Cod Ymarfer ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus a gyhoeddwyd ar 1 Ebrill 2012 gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus, drwy gyflawni ei ddyletswyddau fel y’u nodwyd yn y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor ar Benodiadau Cyhoeddus 2002 (fel y’i diwygir);
ystyr “y dyddiad sefydlu” (“the establishment day”) yw 1 Ebrill 2016;
ystyr “LANTRA” yw’r cwmni, neu unrhyw sefydliad sy’n ei olynu beth bynnag fo’i enw, sydd â’i gyfeiriad swyddfa gofrestredig yn Lantra House, Stoneleigh Park, Swydd Warwick, CV8 2LG ac sydd â’r rhif cofrestru cwmni 02823181 yng Nghymru a Lloegr;
ystyr “y Panel” (“the Panel”) yw’r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru;
ystyr “UNITE” yw Unite yr Undeb sydd â’i swyddfa gofrestredig yn Unite House, 128 Theobald’s Road, Holborn, Llundain, WC1X 8TN ac sydd wedi ei chofnodi ar restr y Swyddog Ardystio yn unol ag adrannau 2 i 4 ac adrannau 123 i 125 o Ddeddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992(1) neu unrhyw sefydliad sy’n ei holynu beth bynnag fo’i enw.