Is-bwyllgorau13.

(1)

Caiff y Panel—

(a)

sefydlu unrhyw is-bwyllgorau y bydd o dro i dro yn ystyried yn angenrheidiol neu’n ddymunol;

(b)

cyfeirio i unrhyw is-bwyllgor y cyfryw faterion y bo o bryd i’w gilydd yn pennu; ac

(c)

gofyn am gyngor gan unrhyw is-bwyllgor o’r fath er mwyn cynorthwyo’r Panel i arfer ei swyddogaethau.

(2)

Caiff y Panel benodi personau nad ydynt yn aelodau o’r Panel i fod yn aelodau o unrhyw is-bwyllgor, ar yr amod nad yw unrhyw is-bwyllgor o’r fath ond yn cynnwys personau nad ydynt yn aelodau o’r Panel.

(3)

Rhaid i’r Panel dalu i berson a benodir yn unol â pharagraff (3) unrhyw lwfansau a threuliau y bydd y Panel, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, yn penderfynu arnynt.