NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o ganlyniad i Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 (“Deddf 2015”). Mae Rhan 2 o Ddeddf 2015 yn sefydlu Cymwysterau Cymru ac yn nodi ei brif nodau.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diweddaru cyfeiriadau mewn deddfwriaeth er mwyn adlewyrchu’r system newydd ar gyfer rheoleiddio cymwysterau y darperir ar ei chyfer yn Neddf 2015.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth, o ganlyniad i ddarpariaethau Deddf 2015, neu at ddibenion darpariaethau’r Ddeddf honno, sef Rhan 2 (sefydlu a phrif nodau Cymwysterau Cymru), Rhan 3 (cydnabod cyrff dyfarnu), Rhan 6 (darpariaeth bellach sy’n berthnasol i gydnabod, cymeradwyo a dynodi) ac adran 56 (dehongli cyfeiriadau at “cymhwyster”) o Ddeddf 2015 ac Atodlen 3 (darpariaeth bellach ynghylch cydnabod cyrff dyfarnu) ac Atodlen 4 (diwygiadau canlyniadol) iddi.

Mae gan Gymwysterau Cymru (sydd wedi ei sefydlu gan adran 2 o’r Ddeddf) swyddogaethau cydnabod cyrff sy’n dyfarnu cymwysterau yng Nghymru (Rhan 3) a rheoleiddio cyrff o’r fath drwy amodau cydnabod (adran 36 ac Atodlen 3). Mae adran 34 yn ymdrin â chymwysterau y caniateir iddynt gael eu defnyddio ar gyrsiau penodol sy’n cael eu cyllido’n gyhoeddus, sydd, yn gyffredinol, yn eu cyfyngu i ffurfiau ar gymhwyster sydd naill ai wedi eu cymeradwyo gan Gymwysterau Cymru (o dan Ran 4) neu wedi eu dynodi ganddo (o dan Ran 5). Mae Atodlen 4 yn diwygio Rhan 5 o Ddeddf Addysg 1997 a Rhan 5 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.