Search Legislation

Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) a Chynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005

5.—(1Mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)yn y lle priodol, mewnosoder—

ystyr “derbyn gofal” (“looked after”) yw—

(a)

derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru yn unol ag adran 74(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(2), neu

(b)

derbyn gofal gan awdurdod lleol yn Lloegr yn unol ag adran 22(1) o Ddeddf 1989;; a

(b)yn lle’r diffiniad o “swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol” rhodder—

“ystyr “swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol” (“social services functions”) yw swyddogaethau o fewn ystyr adran 143 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac Atodlen 2 iddi;.

(3Yn rheoliad 12(2) (gofyniad i ddechrau cofnod achos i blentyn), ar ôl “o dan Ddeddf 1989” mewnosoder “, neu Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (yn ôl y digwydd)”.

(4Ar ôl rheoliad 12 mewnosoder—

Dyletswyddau’r asiantaeth fabwysiadu pan fo plentyn i gael ei leoli yn unol ag adran 81(11) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

12A.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo penderfyniad wedi’i wneud i leoli plentyn yn unol â rheoliad 28 o Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015(3) (cymeradwyo dros dro ddarpar fabwysiadydd penodol fel rhiant maeth).

(2) Rhaid i’r asiantaeth fabwysiadu—

(a)hysbysu’r darpar fabwysiadydd yn ysgrifenedig o’r penderfyniad i leoli’r plentyn gyda’r darpar fabwysiadydd;, a

(b)esbonio’r penderfyniad i’r plentyn mewn modd priodol, gan roi sylw i oedran a dealltwriaeth y plentyn.

(3) At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “lleoli” (“placed”) yw wedi’i leoli yn unol ag adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 pan fo awdurdod lleol wedi’i fodloni, yn unol ag adran 81(11) o’r Ddeddf honno, y dylai’r plentyn gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd penodol sydd wedi cael cymeradwyaeth dros dro fel rhiant maeth..

(5Yn rheoliad 14 (gofyniad i ddarparu cwnsela a gwybodaeth ar gyfer rhiant neu warcheidwad y plentyn neu bobl eraill a chanfod eu dymuniadau a’u teimladau)—

(a)ar ôl paragraff (1)(b)(iii), hepgorer “ac” a mewnosoder—

(iv)goblygiadau cyfreithiol i blentyn gael ei leoli yn unol ag adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 gyda darpar fabwysiadydd penodol sydd wedi cael cymeradwyaeth dros dro fel rhiant maeth yn dilyn ystyriaeth yn unol ag adran 81(11) o’r Ddeddf honno; ac; a

(b)ym mharagraff (3)(a), yn lle “a (iii)” rhodder “(iii), a (iv)”.

(6Yn rheoliad 38(1) (swyddogion adolygu annibynnol), yn lle “adran 26(2A) o Ddeddf 1989” rhodder “adran 100 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014”.

(7Yn rheoliad 46 (addasu Deddf 1989 o ran mabwysiadu), hepgorer paragraffau (1) a (2).

(8Ar ôl rheoliad 46 (addasu Deddf 1989 o ran mabwysiadu), mewnosoder—

Addasu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â mabwysiadu

46A(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys–

(a)pan awdurdodir awdurdod lleol i leoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu; neu

(b)pan fydd plentyn a leolwyd ar gyfer ei fabwysiadu gan awdurdod lleol yn llai na chwe wythnos oed.

(2) Pan fydd paragraff (1) yn gymwys—

(a)mae adran 6(4)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad at bersonau â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn yn gyfeiriad at unrhyw ddarpar fabwysiadydd y mae’r awdurdod lleol wedi lleoli’r plentyn gydag ef ar gyfer ei fabwysiadu; a

(b)nid yw adran 95 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi yn gymwys..

(9Yn Atodlen 5 (gwybodaeth am y plentyn i’w rhoi i ddarpar fabwysiadydd), ym mharagraff 6, hepgorer “gan yr awdurdod lleol”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources