2.—(1) Mae’r Rheoliadau a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 1 wedi eu dirymu i’r graddau a bennir mewn perthynas â phob un ohonynt yn y drydedd golofn.
(2) Mae’r Rheoliadau a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 2 wedi eu datgymhwyso o ran Cymru i’r graddau a bennir mewn perthynas â phob un ohonynt yn y drydedd golofn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1 Rhl. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(2)