Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 16 Chwefror 2016.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(4Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “aelod o staff” (“member of staff”) yw cyflogai i gorff neu unigolyn sy’n gweithio i gorff ond nid person sydd wedi ei benodi i gorff gan Weinidogion Cymru, un o Weinidogion y Goron neu Ei Mawrhydi (a rhaid dehongli “staff” (“staff”) yn unol â hynny);

ystyr “corff” (“body”) yw person a restrir yn Atodlen 6;

ystyr “unigolyn” (“individual”) yw aelod o’r cyhoedd.

(5Yn y Rheoliadau hyn—

(a)mae cyfeiriadau at unrhyw weithgaredd sy’n cael ei gyflawni gan gorff, neu at unrhyw wasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan gorff, i’w darllen fel pe baent yn cynnwys cyfeiriad at y gweithgaredd hwnnw yn cael ei gyflawni ar ran y corff, neu at y gwasanaeth hwnnw yn cael ei ddarparu ar ran y corff, gan drydydd parti o dan drefniadau a wneir rhwng y trydydd parti a’r corff;

(b)yn unol â hynny, oni bai bod hysbysiad cydymffurfio yn darparu i’r gwrthwyneb, bydd corff wedi methu â chydymffurfio â safon mewn cysylltiad â gweithgaredd y mae wedi trefnu iddo gael ei gyflawni, neu wasanaeth y mae wedi trefnu iddo gael ei ddarparu, gan drydydd parti os nad yw’r gweithgaredd hwnnw neu’r gwasanaeth hwnnw wedi ei gyflawni neu ei ddarparu yn unol â’r safon.